Union 28 o flynyddoedd yn ôl i heddiw (dydd Sul, Medi 19), roedd tîm criced Morgannwg yn dathlu buddugoliaeth fawr dros Gaint wrth iddyn nhw godi tlws y gynghrair undydd am y tro cyntaf erioed yn eu hanes.

Dau oedd yn y dorf yng Nghaergaint y diwrnod hwnnw, wrth i Viv Richards a Tony Cottey fatio i sicrhau’r fuddugoliaeth o chwe wiced, oedd y prifeirdd Jim Parc Nest (T. James Jones) a Dafydd Rowlands.

Roedden nhw wedi teithio gyda’i gilydd i dde-ddwyrain Lloegr ar gyfer yr achlysur hanesyddol, wrth i Forgannwg geisio’u tlws cyntaf ers 1969.

Yn ei gêm olaf cyn ymddeol, roedd tynged Morgannwg yn nwylo’r batiwr byd-enwog o India’r Gorllewin, Viv Richards, fel y dywedodd Jim Parc Nest wrth bodlediad CC4 Museum of Welsh Cricket Podcast mewn pennod o’r enw ‘Llên y Llain’ ddechrau’r tymor hwn.

Roedd Duncan Spencer, bowliwr Caint, wedi bod yn bowlio’n gyflym yn ystod y prynhawn, ac roedd e’n credu ei fod e wedi cipio wiced fawr Richards cyn i’r dyfarnwyr benderfynu bod y belen yn un anghyfreithlon.

Ond ble’r oedd Dafydd Rowlands wrth i’r hanes ddatblygu? A pham fod Jim Parc Nest yn tynnu’i goes am ei gyfweliad ar Radio Cymru o’r cae y prynhawn hwnnw?

Gwrandewch ar ‘Llên y Llain’ gyda Jim Parc Nest, Sioned Dafydd, Dylan Foster Evans a Lowri Roberts i glywed yr hanes.