Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi penderfynu dileu 70% o’r £6.4 miliwn sy’n ddyledus iddyn nhw gan Glwb Criced Morgannwg.

Derbyniodd y clwb fenthyciad gwreiddiol gan y Cyngor yn 2006 er mwyn cynnal criced rhyngwladol yn Stadiwm Swalec, ac ail fenthyciad yn ddiweddarach tuag at gostau cynnal a chadw’r stadiwm.

Roedd eu benthyciadau eraill yn cynnwys £7.2 miliwn gan Allied Irish Bank (AIB) a £2.4 miliwn gan gyn-Gadeirydd y clwb, Paul Russell.

Pe bai’r clwb yn mynd i drafferthion ariannol difrifol – oedd yn edrych yn debygol iawn y llynedd – y flaenoriaeth fyddai ad-dalu’r AIB cyn y benthycwyr eraill, sy’n golygu ei bod hi’n annhebygol y byddai’r Cyngor yn derbyn y rhan fwyaf o’i arian yn ôl.

Mae’r clwb wedi dod i gytundeb sy’n golygu bod cyfanswm eu dyled i’r tri benthycwr ychydig o dan £5 miliwn bellach – sy’n sylweddol is na’r £16 miliwn o ddyled roedd y clwb yn ei wynebu ddiwedd 2014.

‘Cyfrifoldeb’

Mewn datganiad, dywedodd prif weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris: “Mae penderfyniad y Cyngor yn bwysig dros ben i’r clwb ac mae’n un o ddarnau ola’r jig-so wrth ail-drafod ein dyled.

“Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb o sicrhau ein bod ni’n cynnig gwerth ystyrlon i’r economi leol, sylw rhyngwladol trwy’r teledu a rhaglenni sy’n rhoi gwaddol i’r gymuned o ganlyniad i gynnal digwyddiadau chwaraeon byd-eang yng Nghaerdydd.”

Ychwanegodd fod y gemau rhyngwladol sy’n cael eu cynnal rhwng 2015 a 2019, gan gynnwys gêm brawf gyntaf Cyfres y Lludw eleni, yn gyfle i “ymgysylltu â thrigolion Caerdydd” ac “i bobol Cymru ymfalchïo yn eu clwb criced”.

“Bydd y wlad yn dathlu’r ffaith fod y Lludw Investec yn dychwelyd i Gaerdydd haf yma, fydd yn sicrhau miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i ddinas Caerdydd.”

Ymateb y Cyngor

Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw, dywedodd y Cynghorydd Graham Hinchey, aelod Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol: “Mae Clwb Criced Morgannwg yn rhan hanfodol o hanes chwaraeon yng Nghaerdydd a byddai colli’r clwb adnabyddus hwn yn golled enfawr, a heb ei gemau criced, byddai calendr chwaraeon y ddinas ar ei cholled.

“Mae’r gemau Prawf a’r Gemau Rhyngwladol Undydd wedi helpu i godi proffil y ddinas ledled y byd yn ogystal â sicrhau buddion cadarnhaol o ran yr economi leol, ac ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl heb ailddatblygu cyfleusterau’r clwb.”

“Bydd y Cyngor yn parhau i gydweithio’n agos gyda’r credydwyr eraill, y clwb a Llywodraeth Cymru i sicrhau y gellir manteisio i’r eithaf ar y buddion a ddaw yn sgîl criced a’r stadiwm i’r economi leol a chenedlaethol yn y dyfodol.”

“Fel gyda llawer o sefydliadau, mae newidiadau i’r economi wedi cael effaith andwyol ar Glwb Criced Morgannwg ond mae’n hollbwysig nad yw’r sefydliad chwaraeon hir sefydledig hwn yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

“Mae cyngor ariannol annibynnol wedi dangos petai’r clwb yn cael ei orfodi i fynd i’r wal, y credydwr pennaf, AIB Bank fyddai â’r hawl cyntaf ar unrhyw arian sy’n ddyledus sy’n golygu ei bod yn annhebygol y bydd y Cyngor yn gallu adennill unrhyw beth o gwbl. Mae’r cytundeb yn golygu y caiff yr £1.9m sy’n weddill ei ailstrwythuro gyda golwg ar ei adennill yn y dyfodol.

“Mae AIB a Mr Russell wedi cytuno ar ddileu’r dyledion ac mae cyngor ariannol annibynnol yn datgelu bod tua 70% yn gynnig hael iawn i’r Cyngor a Mr Russell. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, byddai gofyn i gredydwyr llai pwysig ddileu’r ddyled gyfan.”

Cefndir

Yn 2006 cynorthwyodd y Cyngor y clwb drwy fenthyg £4.5 miliwn iddo, gan ddisgwyl y byddai costau’r Cyngor yn cael eu had-dalu’n llawn gan Glwb Criced Morgannwg.

Yn 2011, gofynnodd Clwb Criced Morgannwg i’r Cyngor am fenthyciad ychwanegol gwerth £1.056 miliwn oherwydd costau cynyddol ailddatblygu Stadiwm Swalec, ac yn gyfnewid am hynny, cytunodd y clwb i ad-dalu’r benthyciad cyfan pum mlynedd yn gynt a sefydlu pecyn o fuddion cymunedol.

Roedd y buddion hynny’n cynnwys cefnogi’r cynllun hyfforddi a datblygiadau criced llawr gwlad, cynllun tocynnau am ddim i blant sy’n mynychu gemau Morgannwg, codi ymwybyddiaeth o griced a chynyddu cyfranogiad ynddo, darparu cyfleoedd ystafell ddosbarth yn Stadiwm Swalec a chefnogi amryw o ddigwyddiadau cymunedol.