Mae’r Cymro Geraint Thomas yn dal yn bumed yn ras feics Tour de France ar ôl y nawfed cymal rhwng St Etienne a Brioude ar Ddiwrnod Bastille.
Daryl Impey o Dde Affrica enillodd y cymal wrth iddo wibio yn erbyn Tiesj Benoot o Wlad Belg i’r llinell derfyn.
Bydd y degfed cymal yfory (dydd Llun, Gorffennaf 15) yn mynd i Albi.
Mae Geraint Thomas 72 eiliad i ffwrdd o’r crys melyn wrth iddo geisio amddiffyn ei deitl.