Mae ymgyrch Wimbledon y Cymro, Evan Hoyt, wedi dod i ben am eleni, wedi iddo ef a’i bartner, Eden Silva, golli yn y rownd gyn-derfynol.

Roedd y pâr cymysg – a oedd yn cystadlu yn Wimbledon am y tro cyntaf eleni – wedi mynd ymhellach na’r disgwyl wrth gyrraedd rownd yr wyth olaf.

Ond mae’r ddau allan o’r bencampwriaeth wedi iddyn nhw golli yn erbyn Ivan Doig o Croatia a Latisha Chan o Taiwan. Sgôr terfynol y gêm rhwng y ddau bâr oedd 7-5 7-6 (5).

Evan Hoyt yw’r chwaraewyr hŷn cyntaf o Gymru i ennill gêm yn Wimbledon ers Sarah Loosemore yn 1990.

Y gŵr, 24, o Lanelli yw’r cyntaf hefyd i gyrraedd rowndiau’r chwarteri ers Gerald Battrick yn nyblau’r dynion yn 1975.