Mae Syr Dave Brailsford, pennaeth tîm seiclo Ineos, yn mynnu y bydd Geraint Thomas a’i gyd-arweinydd Egan Bernal yn cydweithio yn ystod ras feics Tour de France, sy’n dechrau ym Mrwsel heddiw.

Mae’r seiclwr 22 oed o Golombia eisoes wedi creu cryn argraff ar Gymro arall yn y ras, Luke Rowe, fel ei fod yn ei gymharu â Chris Froome, un o gyn-enillwyr y ras.

Mae penodi cyd-arweinwyr yn newid tacteg i’r tîm, oedd yn arfer ffafrio un arweinydd unigol.

Ond mae’r drefn eleni’n ail-adrodd yr hyn a arweiniodd at fuddugoliaeth Geraint Thomas yn y ras y llynedd, pan oedd y tîm yn cael ei alw’n Team Sky.

Y Cymro oedd cyd-arweinydd y ras gyda Chris Froome, mewn gwirionedd, cyn iddo arwain y ffordd tua’r fuddugoliaeth yn y pen draw.

‘Dim tensiwn’

“Pe bai’r ddau yn cydnabod y byddai’n dda i’r naill neu’r llall ennill, mae’n cynyddu’r posibilrwydd gyda’i gilydd o’r naill neu’r llall yn ennill, yn hytrach na chael rhyw fath o densiwn rhyngddyn nhw,” meddai Syr Dave Brailsford.

“Ac yna, mae’n fater o ymddiriedaeth.

“Yn ei hanfod, rhaid cael elfen o ymddiriedaeth na fydd unrhyw un yn gwneud rhywbeth annisgwyl, a dw i’n credu wedyn fod y ras yn gofalu amdani hi ei hun.

“Mae’r berthynas rhwng y ddau yn dda iawn.

“Maen nhw’n gyfforddus efo’i gilydd, ac maen nhw’n cyfathrebu’n dda.”

Perthynas dda

Gan mai ers blwyddyn yn unig mae Egan Bernal yn aelod o’r tîm, mae’n annhebygol fod ganddo fe a Geraint Thomas yr un berthynas ag oedd gan Geraint Thomas a Chris Froome eto.

Er eu bod nhw’n cyd-gystadlu yn Tour de France y llynedd, wnaethon nhw ddim cystadlu gyda’i gilydd eto tan fis Mehefin eleni yn y Tour de Suisse, wrth i Egan Bernal ei hennill ar ôl i Geraint Thomas gael damwain.

“Dydyn ni ddim wedi rasio lot fawr,” meddai Geraint Thomas.

“Wnaethon ni rasio’r Tour, ac aeth hi’n eitha da.

“Wedyn, dw i ddim yn meddwl ein bod ni wedi rasio tan y Suisse. Aeth honno ddim yn ôl ein cynllun.

“Mae e’n foi braf, mae ganddo fe foesau.”

Luke Rowe yn canmol Egan Bernal

Yn y cyfamser, mae Luke Rowe yn canmol rhinweddau Egan Bernal.

“Mae e’r math o foi y byddwn i’n reidio i mewn i wal drosto fe ac yn ymrwymo iddo fe oherwydd mae e’n arweinydd naturiol,” meddai.

“Mae gyda chi fois sydd yn arweinwyr naturiol a bois nad ydyn nhw’n arweinwyr naturiol.

“Mae gan y rhai sydd yn arweinwyr ryw fath o garisma a phersonoliaeth naturiol.

“Fel y tro cyntaf y gwnes i weithio â Froomey, ro’n i wedi fy synnu gan y meddylfryd cadarn hwn.

“Maen nhw yno ar y bws ac yn awyddus i fynd allan a rhwygo coesau pobol.

“Mae ganddyn nhw feddylfryd cadarn, ac mae gan Egan y meddylfryd hwnnw hefyd.”