Mae’r seiclwraig Dani Rowe wedi cyhoeddi ei bod hi’n rhoi’r gorau i gystadlu’n broffesiynol.

Roedd hi’n aelod o dîm Prydain a ddaeth i’r brig yn erbyn y cloc yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012.

Enillodd hi dri theitl byd a dau deitl Ewropeaidd ar y trac cyn troi ei sylw at y ffordd.

Cipiodd hi fedal efydd wrth gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia eleni.

Penderfynodd hi gynrychioli Cymru gan ei bod yn briod â Matt Rowe, brawd y seiclwr o Gymru, Luke.

‘Braint’

“Roedd cael bod yn bencampwraig genedlaethol ac Ewropeaidd sawl gwaith, yn enillydd medal Gemau’r Gymanwlad, pencampwraig y byd dair gwaith, ac yn enillydd medal aur Olympaidd yn fy ngwlad fy hun yn fwy nag y gallwn fod wedi breuddwydio amdano,” meddai, wrth gyhoeddi ei hymddeoliad.

“Dw i’n teimlo’r fraint o fod wedi gorffen fy ngyrfa seiclo broffesiynol ar fy nhelerau fy hun ac mewn lle da yn feddyliol gyda’r gamp.

“Dw i wedi cyflawni pethau, a dw i’n cael fy ngyrru yn fy mlaen wrth gyrraedd a gwella targedau wnes i eu gosod i fi fy hun.

“Ar ôl ennill medal yng Ngemau’r Gymanwlad, dw i wedi ennill prif fedal ym mhopeth allwn i yn y byd seiclo, ac mae’n bryd mentro i’r bennod nesaf yn fy mywyd.

“Mae gen i gynlluniau cyffrous eisoes yn eu lle ar gyfer 2019, gan gynnwys sut dw i’n cael aros yn rhan o’r gamp anhygoel hon, a dw i’n edrych ymlaen at gael rhannu hyn gyda chi yn y flwyddyn newydd.”