Y seiclwr o Gaerdydd, Geraint Thomas yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.

Fe gafodd ei anrhydeddu mewn seremoni yng ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd neithiwr (nos Fawrth, Rhagfyr 4).

Daeth y cyhoeddiad yn ystod noson Gwobrau Chwaraeon Cymru, ac mae’n coroni blwyddyn gofiadwy i’r Cymro cyntaf erioed i ennill ras feics Tour de France.

Yn dilyn ei lwyddiant ar strydoedd ac ym mynyddoedd Ffrainc, fe gfodd y Cymro groeso cynnes adref gerbron torf o 8,000 o bobol yn y brifddinas yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol.

Pencampwr snwcer y byd, Mark Williams ddaeth yn ail, a’r bobsledwraig sgerbwd Laura Deas yn drydydd.

Gwobrau eraill

Un arall o brif enillwyr y noson oedd Tanni Grey-Thompson, a gipiodd y Wobr Cyflawniad Oes, a hithau’n un o’r para-athletwyr mwyaf llwyddiannus erioed.

Mae hi hefyd yn ymgyrchydd brwd tros bara-chwaraeon a lles para-athletwyr.

Dyma’r enillwyr eraill yn llawn:

  • Tîm y Flwyddyn – Devils Caerdydd (hoci iâ, enillwyr y Gynghrair Elit)
  • Hyfforddwr y Flwyddyn– Jayne Ludlow (rheolwraig tîm pêl-droed merched Cymru am eu hymgyrch i geisio cyrraedd Cwpan y Byd)
  • Arwr Tawel BBC Cymru– Asa Waite (hyfforddwraig a sylfaenydd tîm pêl-fasged i ferched yng Nghasnewydd)
  • Athletwraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James – Elynor Backstedt (seiclwraig trac, medal efydd ym Mhencampwriaeth y Byd)
  • Athletwr Ifanc y Flwyddyn Carwyn James – James Bowen (enillydd ieuengaf Grand National Cymru)
  • Person Ifanc Ysbrydoledig – Fran Smith (cyfraniad i nifer o gampau anabledd)
  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Gareth Lanagan (Clwb Criced Dolgellau)
  • Sefydliad y Flwyddyn – Y Bartneriaeth Awyr Agored (Gwynedd)
  • Gwobr Cymru Actif – Codi Allan, a Bod yn Egnïol (Wrecsam, Sir Benfro a Rhondda Cynon Tâf)
  • Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn – Aled Jones-Davies (Tîm Rhedeg Pen Ffordd Tâf, Caerfyrddin)