Mae Georgia Davies o Abertawe wedi ennill medal aur yn y ras 50m dull cefn ym Mhencampwriaeth Nofio Ewrop yn Glasgow.

Enillodd hi’r ras mewn 27.23 eiliad.

Daeth ei buddugoliaeth ddiwrnod ar ôl iddi osod record Ewropeaidd newydd o 27.21 yn ei rhagras.

Daeth hi o fewn trwch blewyn i guro’r amser hwnnw yn y rownd derfynol.

A hithau’n 27 oed, dywedodd hi ar ddiwedd y ras mai “27 yw’r 18 newydd”.