Mae un o sêr byd reslo y 1970au, ‘Luscious’ Johnny Valiant, wedi marw.
Fe fu farw ‘Johnny Valiant’ – Thomas Sullivan yn iawn – yn yr ysbyty ddoe (dydd Mercher, Ebrill 4), a hynny ar ôl iddo gael ei daro gan gar tra oedd yn croesi lôn ger ei gartref yn Pensylvania yn yr Unol Daleithiau.
Yn ôl yr heddlu, fe gafodd y dyn 71 oed ei daro toc cyn 5:30yb, a hynny yn Ross Township, sydd tua wyth milltir i’r gogledd-orllewin o Pittsburgh.
Gyrfa
Yn ystod y 1970au, roedd yn aelod o’r Valiant Brothers, a hynny ar y cyd â James Harold Fanning (‘Jimmy Valiant’), gyda’r ddau’n llwyddo i ennill nifer o bencampwriaethau.
Yn y 1980au wedyn, bu’n gweithio fel rheolwr yn y byd reslo, gan reoli unigolion enwog megis Hulk Hogan a Brutus Beefcake.
Yn ddiweddarach, fe fentrodd i fyd actio, ac ymddangosodd mewn nifer o raglenni teledu megis The Sopranos a Law & Order.