Mae disgwyl i Gaerdydd fod dan ei sang dydd Sadwrn (Mawrth 31) wrth i 80,000 o bobol heidio i Stadiwm Principality i wylio’r ffeit rhwng dau bencampwr pwysau trwm.

Bydd Anthony Joshua, sydd eisoes yn dal teitlau’r WBA ac IBF, yn ceisio hawlio’r teitl WBO oddi ar ei wrthwynebydd, Joseph Parker.

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd nifer o ffyrdd ar gau diwrnod yr ornest ac mae’n gofyn i bobol gynllunio eu teithiau cyn gadael y tŷ.

Bydd pob ffordd ger canol y ddinas ar gau rhwng 4 o’r gloch prynhawn fory ac 1 o’r gloch fore dydd Sul.

Mwy o dacsis, bysus a threnau

Y tro diwethaf i Anthony Joshua ymladd yng Nghaerdydd ym mis Hydref, bu rhai pobol yn aros dros bum awr am dacsi o ganol y ddinas wedi’r ffeit.

Mae drysau’r stadiwm yn agor am 5yp dydd Sadwrn, a disgwyl i’r brif ornest ddechrau am tua 10.30yh.

Er bod disgwyl mwy o dacsis, bysus a threnau i wasanaethu’r ymwelwyr ychwanegol, mae gwaith peirianyddol yn digwydd ar y rheilffyrdd ger Bryste ac yn golygu gallai fod oedi.

“Dyma ddigwyddiad gwych i ddod i Gaerdydd, ac mae’r ddinas yn prysur dangos ei chymwysterau fel y lle gorau i gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr,” meddai Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.

“Fodd bynnag mae’n bwysig bod cefnogwyr yn cynllunio ymlaen llaw ac yn ystyried pob opsiwn o deithio cyn dechrau er mwyn gwneud y mwyaf o’r profiad a mwynhau’r hyn mae gan ein prifddinas i gynnig.”