Cyflawnodd y Cymro Cymraeg Aled Siôn Davies record bersonol wrth daflu’r pwysau mewn cyfarfod dan do yn Birmingham neithiwr.

Dyma’r tro cyntaf i bara-athletwr gystadlu yn y pencampwriaethau yn erbyn athletwyr heb anableddau.

Taflodd e’r pwysau 15.42 metr i orffen yn chweched yn y gystadleuaeth.

Mae’n anelu i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad 2022 yn erbyn athletwyr heb anableddau. Ond fydd e ddim ar yr Arfordir Aur yn Awstralia eleni gan nad yw’r ddisgyblaeth yn cael ei chynnig.

Ei nod ymhen pedair blynedd fydd taflu’r pwysau 18.50 metr.

Ei record byd – gyda’r pwysau ysgafnach – yw 17.52 metr.

Olivia Breen

Ar ôl cael ei henwi’n Athletwraig y Flwyddyn yng Nghymru, roedd y bara-athletwraig Olivia Breen hefyd yn cystadlu yn erbyn athletwyr heb anableddau.

Roedd hi’n cystadlu yn y naid hir, a gorffennodd hi’n wythfed wrth neidio 4.58 metr ar ei hymgais olaf ar ôl pedair naid aflwyddiannus.

Bydd hi’n cystadlu yn y naid hir a’r ras 100 metr ar yr Arfordir Aur.