Gyda 2017 yn dirwyn i ben bydd un rhedwr o Gymru yn falch iawn ar ôl iddo redeg dros 5,000 o filltiroedd yn ystod y flwyddyn.

Doedd ddim yn darged i Nathan Flear, 34, o Rydaman, ond gyda’r holl ymarfer bydd mwy na thebyg wedi rhedeg cyfwerth a hanner marathon y diwrnod. Ar gyfartaledd mae o wedi rhedeg 100 milltir yr wythnos ond weithiau 150 milltir wrth ymarfer at y Spartathlon –  ond wrth adfer ar ôl ras fawr bydd yn rhedeg tua  50 milltir.

“Wnes i ddechrau rhedeg i golli pwysau,” meddai Nathan Flear wrth Golwg360. “Roeddwn i dros 16 stôn tair blynedd yn ôl. Fy nod oedd cynrychioli Cymru a rhedeg y ras Spartathlon, ac mi wnes i gyflawni’r ddau beth yn 2017. Mae rhedeg fel cysgu a bwyta yn fy mywyd i bellach, os dw i’m yn mynd allan i redeg bob diwrnod rwy’n teimlo bod rhywbeth allan o’i le.”

Spartathlon

“Roedd Spartathlon yn bob dim roeddwn i’n ei  ddisgwyl. Roedd yn nod i fi ers y dechrau, ac mae’n eithaf caled i gael lle yn y ras oherwydd ei bod mor eithafol. Felly, mi wnes i darged i gael fy amser cymhwyso ar ei chyfer  mewn dwy flynedd ac mi wnes i drwy ennill ras 100 milltir Robin Hood 2016 mewn amser o 6 awr 34 munud, 37 eiliad.

“Roedd yn brofiad rhyfeddol i redeg Spartathlon a’i gorffen yn enwedig i fod yn gyntaf o’r tîm Prydeinig, ond rwyf hefyd yn gwybod lle wnes i golli amser, ac rwyf yn gobeithio mynd yn ôl yn 2018 i’w guro.”

Mae Spartathlon yn ras hanesyddol o bellter eithafol ar draed sy’n cael ei chynnal bob mis Medi yng Ngwlad Groeg. Mae’n cael ei hadnabod fel un o’r rhai caletaf yn y byd oherwydd ei hanes unigryw a’i chefndir.

Bywyd teuluol

“Rwy’n dad i dri o blant, dwy ferch saith a phump oed a hogyn bach un oed, ac rwy’n ceisio mynd allan cyn i’r plant godi a gyda’r nos fel bod yr ymarfer ddim yn amharu ar y bywyd teuluol. Rwy’n siomi gyda phobl yn dweud bod ganddyn nhw ddim amser i ymarfer, lol, jyst gwnewch o.

“Dw i’n gweithio yn y busnes marchnata, ond rwyf hefyd yn hyfforddwr ffitrwydd ac rwyf yn ceisio creu busnes i fod yn hyfforddwr personol. Rwyf hefyd yn brysur gyda threfnu ras ultra yn Sir Gâr a Saint Illtyd 50k a 100k.

“Y nod yn 2018 yw cael fy newis i Gymru ym mhencampwriaeth 100k Prydain, mi fydda’i yn ceisio cael lle ar y podiwm. Mi fydda’i hefyd yn rhedeg ras trac 40 milltir Y Barri sydd yn rhan o Bencampwriaeth Ultra rhedeg Cymru. Enillais aur blwyddyn yma felly gobeithio y galla’i ei hail adrodd.

“Rwyf hefyd eisiau cymhwyso ar gyfer Tîm Prydain 24 awr a fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd 2019 yn Awstria, rwyf yn gobeithio cystadlu yn Spartathlon eto a mynd o dan 24 awr a herio am le ar y podiwm.”

Gydag agwedd mor benderfynol, yn sicr bydd Nathan Flear yn cyflawni ei uchelgeisiau.