Nathan Cleverly
Mae’r paffiwr Nathan Cleverly wedi cadarnhau ei safle’n bencampwr is-drwm y byd i’r WBO, gyda buddugoliaeth mewn pedair rownd yn Llundain neithiwr.

Yn yr O2, fe gafodd yr ymladdwr 34 oed o Wlad Pwyl, Aleksy Kuziemski, ei atal yn y bedwaredd, gyda gwaed yn llifo tros ei wyneb.

Roedd Cleverly wedi ei guro’n rhacs yn yr ail rownd, cyn cael ei siglo ei hun yn y drydedd, ond fe gadwodd ei ben yn y bedwaredd a gorffen y gwaith.

Roedd hynny’n ddiwedd ar wythnos ryfedd i’r paffiwr o Gefn Fforest uwchben Cwm Rhymni, ac yntau’n cael ei goroni’n bencampwr a gorfod paratoi ar gyfer tri gwrthwynebydd gwahanol.

‘Lan a lawr’

Fe gafodd y teitl ddydd Iau ar ôl i’r Almaenwr Juergen Braehmer dynnu’n ôl o’u gornest ar y funud ola’ ac fe fethodd yr ail wrthwynebydd tebygol, Tony Bellew, â chyrraedd y pwysau.

“Mae wedi bod yn wythnos lan a lawr,” meddai Cleverly wrth Radio Five Live wedyn. “Ond fe wnes i ddal i ganolbwyntio.”

Bellach, meddai, roedd yn gallu dweud o ddifri ei fod yn bencampwr y byd.