Cwpan Ryder yn glaw y Celtic Manor
Ffrainc fydd yn cynnal Cwpan Ryder 2018, ar ôl maeddu’r ffefrynnau Sbaen.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei gynnal yn Le Golf National yn Verailles, ar gyrion y brifddinas Paris.

Mae Cwpan Ryder wedi ei gynnal ar y cyfandir unwaith o’r blaen pan arweiniodd y diweddar Seve Ballesteros Ewrop i fuddugoliaeth yn Valderrama, Sbaen yn 1997.

Roedd teulu Seve Ballesteros wedi dweud y dylid cynnal Cwpan Ryder yn 2018 yn Sbaen er cof amdano yn dilyn ei farwolaeth yn gynharach yn y mis.

Ond fe benderfynodd y trefnwyr ddewis Ffrainc yn hytrach na chynigion Sbaen, yr Almaen, Portiwgal a’r Iseldiroedd.

Bydd Chicago yn cynnal Cwpan Ryder nesaf ymhen blwyddyn cyn i’r gystadleuaeth dychwelyd i Ewrop ac i Gleneagles yn 2014.