Angharad Mair ym Marathon Llundain y llynedd Llun: Cyfrif Twitter Angharad Mair
Mae cyflwynydd Heno wedi llwyddo i adennill ei record gan ddod y ddynes gyflymaf dros 55 oed i gwblhau Marathon Llundain.

Gorffennodd Angharad Mair y ras 26.2 milltir ddydd Sul gydag amser o 2 awr 54 munud a 49 eiliad.

Hi hefyd enillodd y categori hwn y llynedd gydag amser o 2 awr 57 munud a 46 eiliad.

Ond dros yr haf fe gollodd ei record i redwraig arall, sef Treena Johnson, ddaeth yn ail iddi’r penwythnos hwn.

Bellach mae Angharad Mair wedi llwyddo i ail-gipio ei record Brydeinig gydag amser newydd i ferched dros 55 oed.

Athletwr o Abertawe

Cymro arall ddaeth i’r brig oedd Josh Griffiths o glwb Harriers Abertawe, a ef oedd yr athletwr cyntaf o wledydd Prydain i orffen y ras.

Mae hyn yn golygu y bydd yn cymhwyso ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd ar ôl cwblhau’r ras mewn 2 awr, 14 munud a 49 eiliad.

Dyma oedd ei farathon cyntaf, a gorffennodd e’r ras yn drydydd ar ddeg ar y cyfan.

Dywedodd  Josh Griffiths ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru y bore ma ei fod wedi “methu credu beth oedd wedi digwydd” wrth iddo groesi’r llinell derfyn a’i fod yn ystyried cael hyfforddwr ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd.

Roedd mwy o redwyr nag erioed o’r blaen yn cymryd rhan eleni, gyda 40,382 o bobol o gymharu â 39,140 y llynedd.