A ninnau ar hanner amser yn y gem rhwng Awstralia a Chymru, mae hi’n ornest a hanner yn Stadiwm Tokyo gyda’r tempo yn gyflym a chyffrous.
Cymru sgoriodd y cais cyntaf wedi cais gwych gan Hadleigh Parkes a ddaliodd gic gan Dan Biggar.
Daeth Awstralia yn ôl gyda Adam Ashley-Cooper.
Mae Cymru newydd sgorio eu hail gais gyda Gareth Davies yn dangos ei gyflymder wedi rhyng-gipiad gwych i wneud y sgôr cyn hanner amser yn 24-8 diolch i drydedd cic llwyddiannus Rhys Patchell rhwng y pyst.
Mae hi’n argoeli i fod yn danllyd iawh wedi’r egwyl.