Mae’n edrych yn debyg iawn nawr fod Gareth Bale ar fin gadael Real Madrid i ymuno â chlwb Jiangsu Suning yn Tsieina ar gytundeb tair blynedd.

Yn ôl addroddiadau fe allai ymosodwr Cymru dderbyn cyflog gwerth £1m yr wythnos trwy symud i Tsieina.

Symudodd Bale i’r Bernabeu o Tottenham yn 2013 am £85m – record byd ar y pryd. Ond ni chafodd fawr o groeso gan y seren yno ar y pryd Cristiano Ronaldo. A phan ddaeth Zinedine Zidane yn reolwr ar Real Madrid, roedd hi’n weddol glir nad oedd y chwaraewr o Gaerdydd yn un o’i ffefrynnau.

Daeth Bale oddi ar y fainc i sgorio yn erbyn Arsenal yng Nghwpan Pencampwyr Rhyngwladol yr wythnos diwethaf a chwarae hanner awr yn erbyn Atletico Madrid nos Wener.

Mae ganddo dair blynedd ar ôl ar ei gytundeb gyda Real ble mae wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr bedair gwaith.

Mae chwaraewyr sydd eisoes yn chwarae i Jiangsu yn cynnwys cyn ymosodwr rhyngwladol Yr Eidal, Eder a chwaraewr canol cae Brasil, Alex Teixeira.