Un o anthemau Dafydd Iwan fydd yn gosod y naws yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn un o’r gemau mwyaf yn hanes pêl-droed Cymru, ac mae’r canwr ei hun wedi dweud wrth golwg360 y bydd hi’n “ffordd reit dda o godi hwyl”.

Wrth i’r tîm cenedlaethol baratoi i wynebu Awstria yn rownd gyn-derfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd 2022 nos Iau (Mawrth 24), fe fydd y canwr a’r cefnogwyr yn eu tywys i’r cae gyda pherfformiad arbennig o ‘Yma o Hyd’.

Gan y bydd y stadiwm dan ei sang, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gofyn i gefnogwyr gyrraedd eu seddi’n gynnar er mwyn osgoi oedi.

Er mwyn denu pawb o’r tafarnau, maen nhw wedi llunio rhaglen o adloniant, a fydd yn cynnwys bandiau a DJs yn chwarae ar lwyfannau gwahanol o gwmpas y stadiwm.

‘Ffordd reit dda o godi hwyl’

Mae Dafydd Iwan yn “falch iawn” ei fod wedi cael y cynnig gan y Gymdeithas Bêl-droed i ganu yn y stadiwm ar drothwy’r gêm fawr.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr,” meddai wrth golwg360.

“Fydda i’n canu ar y meic yn fyw efo’r recordiad yn y cefndir.

“Dw i wedi gwneud efo cyfeiliant o’r blaen, ond mae hynny’n gallu bod yn risg oherwydd yr oedi rhwng beth wyt ti a gweddill y dorf yn ei glywed.

“Ond efo recordiad, fydda i’n clywed yr un pryd â phawb arall gobeithio.

“Fydda i’n canu tua deng munud cyn y gêm, felly fydd y timau ar y cae yn barod i ganu’r anthemau a fydd pawb yn eu lle.

“Gobeithio bydd o’n ffordd reit dda o godi hwyl.”

Yr anthem answyddogol “wedi llwyddo i groesi’r ffin iaith”

Mae ‘Yma o Hyd’ wedi datblygu i fod yn un o’r prif anthemau ymhlith cefnogwyr Cymraeg a di-Gymraeg y tîm cenedlaethol dros y blynyddoedd.

Honno oedd yn seinio o gwmpas Stadiwm Dinas Caerdydd pan lwyddodd Cymru i gael gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg y llynedd a sicrhau eu lle ymhlith y detholion ar gyfer y gemau ail gyfle hyn.

O dro i dro, mae hi’n cael ei chwarae gan chwaraewyr fel Connor Roberts yn yr ystafelloedd newid er mwyn codi ysbryd cyn y gêm.

“Mae wedi llwyddo i groesi’r ffin iaith,” meddai’r canwr.

“Mae cefnogwyr di-Gymraeg yn canu’r gytgan, ac mae’n ddiddorol iawn sut mae hynny wedi digwydd.

“Wrth gwrs, mae hi wedi cael ei chwarae lot yn y stadiwm yna yng ngemau Caerdydd, ac mae hi’n cael ei chwarae yn Wrecsam cyn pob gêm gartref.

“Felly mae pawb wedi cael rhyw fath o gyfle i wrando arni.”

‘Gyda’n Gilydd, Yn Gryfach’

Mae’r ymgyrch ‘Gyda’n Gilydd, Yn Gryfach’, sydd wedi ei gydlynu gan y Gymdeithas Bêl-droed, hefyd wedi llwyddo i ysbrydoli chwaraewyr Cymru a’u gwneud nhw’n fwy ymwybodol o’u cenedl.

“Mae wedi digwydd yn rhyfeddol a dweud y gwir,” meddai Dafydd Iwan wedyn.

“Er bod rhan fwyaf y chwaraewyr yn chwarae tu allan i Gymru, mae’r tîm cenedlaethol wedi gwneud yn dda iawn wrth greu’r syniad o Gymreictod y tu ôl i’r tîm.

“Hynny ydi, mae’r tîm yn gwneud mwy na jyst chwarae dros ‘Wales’, maen nhw’n ymwybodol eu bod nhw’n cynrychioli rhywbeth ehangach.”

‘Hen bryd’ i ni gymhwyso

O ran y gêm ei hun, mae Dafydd Iwan yn gobeithio y bydd gan Gymru wynebau newydd yn Qatar ym mis Tachwedd, ac y byddan nhw’n gallu trechu Awstria yn rhan o’r daith honno.

“Dw i ddim yn arbenigwr, ond mae popeth yn help,” meddai.

“Maen nhw’n ddigon da i fynd drwodd, ond mae bod yn bositif ac yn hyderus yn rhan fawr ohoni.

“Pymtheg oed oeddwn i pan fuon ni yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd y tro cyntaf, a dw i’n cofio oedden nhw’n dîm o fawrion.

“Ond mae’n hen bryd i ni gael Cymry newydd yno yn 2022!”

Fe fydd y gic gyntaf rhwng Cymru ac Awstria am 19:45 heno, gyda rhaglen Sgorio‘n darlledu’r gêm yn fyw ar S4C.