Mae cyllid newydd o hyd at £4m wedi’i glustnodi gan Chwaraeon Cymru er mwyn helpu clybiau chwaraeon ar lawr gwlad a sefydliadau cymunedol.
Bydd y ‘Gronfa Cymru Actif’ yn darparu cefnogaeth ariannol i’r clybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol sydd wedi cael eu heffeithio gan bandemig y coronafeirws.
Mae’r cyllid wedi cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru ag arian wedi ei ailgyflwyno gan y Loteri Genedlaethol.
Mae’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng wedi darparu mwy na £600,000 i bron i 400 o glybiau ers i’r ceisiadau agor ym mis Ebrill.
Bydd mwy o glybiau nawr yn gallu diogelu eu dyfodol drwy wneud cais am grant o rhwng £300 a £50,000.
‘Hyd yn oed mwy o gefnogaeth’
“Mae chwaraeon ar lawr gwlad wedi cael ei effeithio’n ddrwg,” meddai Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell.
“Mae’r cyllid argyfwng eisoes wedi achub nifer fawr o glybiau, ac rydym yn falch o allu lansio’r cyllid newydd hwn fydd yn darparu hyd yn oed mwy o gefnogaeth mewn cyfnod lle mae wir ei angen”.
Tra bod y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas wedi dweud: “Wrth i ragor o weithgareddau ddechrau dychwelyd, bydd y cyllid hwn yn rhan allweddol o uno ein cymunedau unwaith eto drwy chwaraeon a gweithgaredd corfforol.
“Bydd ein clybiau chwaraeon ar lawr gwlad a sefydliadau cymunedol yn chwarae rôl hanfodol wrth edrych ar ôl iechyd corfforol a meddylion o genedl wrth i ni adfer o’r cyfnod hwn”.