Fe fuodd Mali Elwy yn ateb dwsinau o negeseuon yn ei llongyfarch drwy’r dydd ar ôl iddi gipio Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2022.

Bu’r perfformiwr theatrig o Dan-y-fron ger Llansannan yn sgwrsio gyda chylchgrawn golwg ddiwrnod ar ôl y gystadleuaeth a gafodd ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth nos Sul.

“Dw i ddim yn siŵr a ydi o’n dal wedi sincio mewn,” meddai’r perfformiwr.

“Roedd hi’n noson mor gyffrous a phrysur – mi wnaethon ni orffen ac ro’n i’n dreifio yn ôl i Fangor yn syth. Roedd o i gyd yn blur.

“Dw i wedi cael gymaint o negeseuon hollol gorjys neithiwr ar ôl dod i mewn, a dw i wedi treulio’r bore yn ateb pobol ac yn gwenu ar fy ffôn achos mae pobol yn bod mor lyfli.”

Perfformiodd ddau ddarn yn y gystadleuaeth – ‘Gwallgofnau’, darn o waith ei hewythr, Rhodri Evans, sy’n Bennaeth Ysgol Pentrefoelas, a ‘Pen-blwydd’, darn am golled a galar sgrifennodd hi ei hun.

Y beirniad oedd Sioned Terry, Gwennan Gibbard, Barri Gwilliam, Bethan Williams-Jones ac Arwel Gruffydd (a gamodd i mewn ar fyr rybudd yn lle’r actor Huw Garmon).

Yn ogystal ag ennill y teitl, enillodd Mali Elwy wobr ariannol o £4,000.

Perfformio mewn gig yn Llambed noson gynt

Y chwe ymgeisydd oedd Fflur Davies (Cylch Arfon), Gwenno Morgan (Aelwyd Llundain), Ioan Williams (Adran Bro Taf), Owain Rowlands (Aelod Unigol Blaenau Tywi), a Rhydian Tiddy (Cylch Blaenau Tywi) a Mali Elwy (Adran Bro Aled).

“Mi wnes i jyst eistedd ’nôl a mwynhau perfformiadau pawb,” meddai Mali Elwy.

“Roedd yna awyrgylch neis iawn, efo pawb yng nghefn llwyfan efo’i gilydd mor gefnogol o’i gilydd.”

Cyn y gystadleuaeth, roedd y chwe ymgeisydd wedi bod mewn dosbarthiadau meistr gydag arbenigwyr yn eu priod faes.

Gyda’r actores a’r cyfarwyddwr Ffion Dafis yr oedd Mali Elwy wedi bod yn ymarfer cyn iddi gamu ar y llwyfan yn Aberystwyth.

Mae hi hefyd yn aelod o grŵp pop ei brawd Morgan Elwy.

Ar ôl ymarfer at y gystadleuaeth yn y Ganolfan yn Aberystwyth drwy’r dydd ddydd Sadwrn, fe yrrodd i Lanbedr Pont Steffan gyda’r hwyr i berfformio gyda’r band mewn gig ryng-golegol, a gyrru nôl i Aberystwyth wedi hynny.

Darllenwch ragor am Mali Elwy a’i llwyddiant yng nghylchgrawn golwg ddydd Iau.

Mali Elwy

Mali Elwy yn ennill Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel

Mae’r aelod o Adran Bro Aled yn ennill gwobr o £4,000