Ar ôl cael ei gyfyngu i sgrin ers blwyddyn a rhagor, mae cwmni theatr Arad Goch yn benderfynol o gael perfformio yn fyw a helpu i oresgyn ynysrwydd “llethol” yng nghefn gwlad…

Os ydych chi’n byw yng Ngheredigion, efallai y cewch chi bip ar sioe fach gerddorol unigryw drwy ffenestr y gegin dros yr wythnosau nesa’.