Ar ôl bod yn twrio yn archif deledu Cymru ar gyfer ei gyfres ddiwethaf, Cic Lan yr Archif, y Cymry fel pobol sy’n cael sylw’r digrifwr Elis James yn ei gyfres newydd Nabod y Teip sy’n dechrau ar S4C nos Fercher (Mehefin 12).
Mae’n grwpio’r Cymry i chwe chategori – cwynwyr, pencampwyr, ffermwyr, y Fam Gymreig, perfformwyr a chymeriadau sebonllyd.
Pencampwyr
Yn y bennod ar bencampwyr, mae’n ateb cwestiwn oesol y Cymry – ai rygbi neu bêl-droed yw ein camp genedlaethol?
Ond mae hefyd yn rhoi sylw i dynnu rhaff, tipit neu ‘hot gwerin’, sef cymysgedd o symudiadau traddodiadol a gwres.
Ffermwyr
A’i dafod yn ei foch, mae’n mynd â’r drafodaeth i dir newydd yn y bennod ar ffermio.
“Yn ôl yr ystadegau, mae bron i 90 y cant o dirwedd Cymru yn dir amaethyddol,” meddai.
“A thra bo nhw’n dweud yn Llundain bo’ chi fyth mwy na chwe throedfedd i ffwrdd o lygoden fawr, yng Nghymru chi fyth mwy na llathen o ffarmwr!”
Y Fam Gymreig
A phe na bai hynny’n ddigon i godi ofn arnon ni’r Cymry, mae’n camu’n ôl i oes y Llyfrau Gleision ac yn darogan tranc y genedl gyfan ac eithrio ambell grŵp arbennig o Gymry.
“Ar ôl yr apocalyps, dim ond y Fam Gymreig a llwyth o cockroaches fydd ar ôl,” meddai.
Perfformwyr
Mae perfformio “yng ngwaed y Cymry”, meddai wrth drafod y drydedd bennod yn y gyfres, sy’n canolbwyntio ar y categori ‘perfformwyr’.
“Ym mha wlad arall mae pobol yn harmoneiddio’r gân Pen-blwydd Hapus? Ble arall yn y byd cewch chi bobol yn beirniadu safon y canu mewn angladd?
“Ym mha ddiwylliant arall fyddai’r brawddegau yma yn gyffredin: ‘ma’ fe’n glocsiwr enwog’, ‘roedd hi’n arfer cyfeilio i fi ar y delyn’, ‘fe yw’r Archdderwydd gwaethaf erioed’?”
Sebonwyr
Yn y bennod ar operâu sebon, cawn ein tywys i fyd Pobol y Cwm, Rownd a Rownd a Dinas, wrth i ni glywed mwy am y baddie, y deryn a’r fatriarch.
“Mae operâu sebon yn casglu stereoteips cenedlaethol at ei gilydd mewn un lleoliad cyfleus,” yn ôl dadansoddiad Elis James.