Fe fydd y gwaith o gynhyrchu’r sioe gwis, Mastermind, yn cael ei dendro i gwmnïau annibynnol allanol, yn hytrach na chael eu gwneud gan BBC Studios.

Ond fe fydd John Humphrys, sydd heddiw (Chwefror 6) wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i gyflwyno rhaglen radio foreol Today ar Radio 4, yn dal i gyflwyno’r cwis sy’n enwog am ei gadair ddu.

“Mae’n dda ganddon ni gyhoeddi mai cynhyrchwyr Hat Trick a Hindsight ydi’r ddau gwmni sydd wedi ennill y tendr i gynhyrchu’r gyfres nesaf o Mastermind a Celebrity Mastermind,” meddai’r BBC mewn datganiad.