Tudur Owen fydd llais Gogglebocs Cymru, a fydd yn dechrau ymhen pythefnos, ar Dachwedd 2.

Ac yntau’n mwynhau Gogglebox ers blynyddoedd, mae’r comedïwr yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r gyfres ac yn credu y bydd y rhaglen yn gweithio’n dda yn y Gymraeg.

Bydd mwyafrif helaeth o arlwy cartrefi Gogglebocs Cymru yn dod o Gymru, ond bydd ambell gynhyrchiad o’r tu hwnt yn ymddangos hefyd fel bod trafodaethau ac ymatebion y cast yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd mewn cartrefi ledled y byd.

Mae Studio Lambert, sy’n cynhyrchu Gogglebox, wedi cyhoeddi fformat y rhaglen hynod boblogaidd ar Channel 4 o dan drwydded yn egsgliwsif i S4C.

A’r rhaglen Saesneg bellach ar yr ugeinfed cyfres, dyma “gyfle euraidd i wylio cyfres newydd sbon gyda gogwydd a chast hollol Gymreig”, medd y sianel.

Mae llwyddiant y gyfres yn “dibynnu ar y castio”, meddai Tudur Owen, sy’n dweud nad yw’n gwybod pwy fydd y cast eto, ond eu bod nhw’n wynebau newydd.

“Y peth cyntaf ydy cyfarfod y bobol, y ffrindiau a’r teuluoedd fyddan ni, fel cynulleidfa, yn dod i’w hadnabod, hwnnw ydy’r peth pwysicaf yn yr holl gyfres dw i’n meddwl – y cymeriadau yma fyddwn ni’n cael mynd i’w tai nhw,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n edrych ymlaen i gyfarfod nhw, er na fydda i’n eu cyfarfod nhw yn y cnawd, ond fydda i, fel y gwylwyr i gyd, yn cael dod i’w hadnabod nhw dros yr wythnosau, gobeithio.

“I mi, hwnnw ydy’r prif atyniad.

“Dw i’n ffan mawr o Gogglebox, felly roedd o’n benderfyniad hawdd iawn pan ges i wahoddiad.

“Roeddwn i’n falch iawn eu bod nhw wedi gofyn i mi ei leisio fo, achos dw i’n ffan a dw i’n meddwl ei bod hi’n gyfres glyfar iawn ac yn rywbeth sy’n gweithio’n dda iawn.

“Dw i’n meddwl ei fod o’n rywbeth wneith weithio’n dda iawn yn Gymraeg hefyd.”

‘Stamp ein hunain’

Oes yna heriau’n dod wrth ddilyn fformat cyfres mor llwyddiannus a phoblogaidd?

“Mae pobol yn mynd i’w fesur o yn erbyn yr un Saesneg gwreiddiol, ond mae o bellach yn rywbeth sy’n gweithio rownd y byd i gyd mewn gwahanol leisiau – Gogglebox fel math o raglen,” meddai Tudur Owen, gan gytuno bod ambell her.

“Dw i’n meddwl bod modd iddo fo weithio’n dda yn Gymraeg achos rydyn ni’n medru rhoi’r spotlight ar y rhaglenni Cymraeg fyddan nhw’n eu gwylio, yn ogystal â’r rhai Saesneg.

“O be’ dw i ar ddallt, mae yna gymysgedd o raglenni Cymraeg, rhaglenni S4C wrth gwrs, yn mynd i fod dan sylw a rhai Saesneg.

“Dyna sy’n mynd i’w wneud o’n wahanol i ni, ein gogwydd ni fel Cymry ar deledu ac ar y byd.

“Dw i’n meddwl y bydd o’n llwyddiannus. Yr her fawr ydy rhoi ein stamp ein hunain arno fo, a’i wneud o’n Gymreig, ond dw i’n meddwl bod y ffaith bod pobol yn siarad Cymraeg am wneud hynny.”

‘Di-flewyn-ar-dafod’

Er nad yw manylion y cast wedi’u cyhoeddi eto, mae S4C ar ddeall y bydd camerâu yn ymweld â chartrefi yn ardaloedd Brynaman, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon, Crymych, Dinbych, Llanelli, Maerdy, Manceinion, Pen-y-bont ar Ogwr, Pwllheli, Talsarnau, Tregarth a Wrecsam dros y dyddiau nesaf i ffilmio’r bennod gyntaf.

A’r gobaith ydy y bydd y cast yn ymateb yn onest i’r rhaglenni maen nhw’n eu gwylio, meddai Tudur Owen.

“Pan rydyn ni i gyd yn gwylio teledu yn ein cartrefi, dydyn ni ddim yn dal yn ôl – rydyn ni’n dweud os ydyn ni’n licio rhywbeth, ac rydyn ni’n dweud os dydyn ni ddim.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n gwneud hynny.

“Mae yna dueddiad yng Nghymru i fod yn rhy glên achos ein bod ni’n wlad fach, ac yn amlach na pheidio rydyn ni’n adnabod pobol sydd ynghlwm â’r rhaglenni yma felly efallai ein bod ni’n tueddu i fod yn rhy glên.

“Ond dw i’n gobeithio y byddan nhw yn bod yn hollol ddi-flewyn-ar-dafod ac yn dweud wrthym ni be’ maen nhw’n fwynhau a dweud be’ dydyn nhw ddim.”

Argymhell rhaglenni

Yn aml iawn, mae Tudur Owen yn defnyddio Gogglebox er mwyn cael argymhellion ar gyfer rhaglenni i’w gwylio, ac mae’n gobeithio y bydd y gyfres Gymraeg yn gwneud yr un peth.

“Dw i’n meddwl bod [y gyfres] yn ffynhonnell o wybodaeth i ni,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn gwylio teledu rŵan yn yr un modd ag oedden ni, pawb yn eistedd lawr am saith o’r gloch i wylio rhywbeth – rydyn ni’n gwylio rhywbeth on demand ac ati.

“Mae yna gymaint o ddewis, ac efo’r holl ddewis mae hi’n anodd [penderfynu be i’w wylio], mae pethau’n mynd ar goll.

“Dw i’n meddwl bod Gogglebox yn cyflenwi hynny, mae o’n wasanaeth rywsut i argymell rhaglenni a chyfresi.”

‘Wynebau newydd’

Mae’r gyfres yn rhan o ddathliadau S4C yn 40 oed.

“Mae’n bleser mawr cael Gogglebocs Cymru fel rhan o ddathliadau 40 S4C,” meddai Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C.

“Mae’n fformat deledu gwych, sydd wedi dal dychymyg y genedl.

“Be’n well na rhaglen sy’n canolbwyntio ar sêr Cymru ar lawr gwlad? Bydd Gogglebocs Cymru yn ymestyn croeso i aelwydydd o amgylch y wlad a thu hwnt.

“Cawn gwrdd â sawl cymeriad sy’n adlewyrchu Cymru gyfoes yn ei holl ogoniant. Wynebau newydd sy’n rhoi llais i’n cymunedau amrywiol.

“Cofiwch hefyd fod y drws wastad ar agor o ran castio, os ydych chi’n gweld eich hun fel rhywun bydd pobol yn mwynhau gwylio.”

  • Bydd Gogglebocs Cymru yn dechrau nos Fercher, Tachwedd 2 am 9yh ar S4C.