Owain Schiavone sy’n rhoi ei restr o hoff ganeuon y flwyddyn aeth heibio

Fe allwn ystyried 2018 fel carreg filltir bwysig yn hanes cerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

Dyma’r flwyddyn y cofleidiodd y sin y llwyfannau ffrydio digidol o ddifrif, gyda llif cyson o senglau’n cael eu rhyddhau ar lwyfannau digidol trwy gydol y flwyddyn, ac ambell artist yn gweld llwyddiant di-gynsail.

Er hynny, mae llwyth o albyms wedi’u rhyddhau hefyd ac rydan ni wedi gweld mwy o fideos cerddoriaeth yn cael eu cynhyrchu nag erioed.

Dyma’r 10 uchaf gen i am 2018.

10. Am Sêr – Accü

Da oedd gweld cyn aelod y grŵp Trwbador, Angharad Van Rijswijk yn ail-ymddangos ar ffurf ei phrosiect cerddorol newydd Accü. Rhyddhaodd ei halbwm llawn cyntaf, Echo the Red, ym mis Hydref ond cyn hynny roedd wedi rhyddhau cwpwl o senglau, gan gynnwys ‘Am Sêr’ ddiwedd mis Awst.

Mae yn electro-pop cwyrci sy’n tyfu arnoch chi’n raddol cyn eich meddiannu’n llwyr gyda’i melodi ail-adroddus.

https://youtu.be/iHD2lFm6gQ4

9. Calon dan Glo gan I Fight Lions

Mae I Fight Lions o gwmpas ers peth amser, ond ddim wir wedi llwyddo i wneud eu marc ar lwyfannau traddodiadol cerddoriaeth Gymraeg gyfoes rhywsut.

Yn rhannol gan eu bod nhw wedi gigio a gwneud eu marc mewn sawl lle llai traddodiadol! Ond wrth ryddhau eu halbwm diweddaraf gyda Recordiau Côsh, label Yws Gwynedd, ym mis Mehefin eleni roedd eu bwriad o dorri mewn i’r farchnad Gymraeg yn amlwg.

Roedd y newid i sŵn y gerddoriaeth yn amlwg o’r dechrau hefyd, yn enwedig wrth iddyn nhw ryddhau eu sengl gyntaf ‘Calon Dan Glo’ ym mis Ebrill.

Dw i’n arbennig o hoff o lais Hywel Pitts ar hon a’r newid cywair bach clyfar ar ôl y ddwy gytgan gyntaf – un o anthemau 2018 i mi.

https://youtu.be/N3NaJBu4zcwe

8. Rebel gan Mellt

Mae’n teimlo fel petai Mellt o gwmpas ers blynyddoedd, ac er yn ifanc iawn o hyd, maen nhw!

Wedi dweud hynny, 2018 oedd y flwyddyn y gwnaeth Mellt eu stamp o ddifrif wrth ryddhau eu halbwm cyntaf, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, ym mis Ebrill.

Ers hynny, maen nhw wedi gigio mwy nag unrhyw un, wedi cipio teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a chyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig – yr unig record Gymraeg i wneud hynny eleni.

Albwm da iawn ydi Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc. Wrth gwrs, mae ‘na draciau arbennig o dda, ond casgliad aeddfed o ganeuon sy’n gweithio gyda’i gilydd ydy rhinwedd mwyaf yr albwm.

Gan mai ‘Rebel’ ydy prif sengl yr albwm, dyma’r trac dwi wedi setlo arno – chwip o gân.  

https://youtu.be/Tx24MdHSV6g

7. O! Mor Effeithiol – Candelas

Er eu bod nhw wedi rhyddhau albwm, a gigio cryn dipyn yn ystod 2018, mae band Cymraeg amlycaf Cymru fel petaen nhw wedi mynd o dan y radar rhyw ychydig eleni o’i gymharu a blynyddoedd diweddar.

Ac mae yna draciau gwych ar y casgliad diweddaraf, ac mae ‘Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae’, ‘Ddoe Heddiw a ‘Fory’ a ‘Gan Bo Fi’n Gallu’ yn esiamplau da.

Er hynny, ‘O! Mor Effeithiol’ ydi’r un sy’n sefyll allan ben ag ysgwydd uwch y lleill i mi gyda’i llinell fas gadarn, gitârs budr a newid cywair clyfar tua’r diwedd.

6. Cyrff gan HMS Morris  

Dyma chi fand sydd ddim yn cael clod teilwng. Grŵp dyfeisgar sy’n gweithio’n galed, ac yn cyrraedd cynulleidfaoedd sydd y tu hwnt i lawer o artistiaid o Gymru.

Mae’r gerddoriaeth yn arbrofol, yn arallfydol, ac yn cwyrci. Mae ‘Cyrff’ yn arddangos hyn yn berffaith.

https://soundcloud.com/hmsmorris/cyrfff

5. YPwysau gan Mr

Mark Roberts – un o gyfansoddwyr a cherddorion pwysicaf ei genhedlaeth, ac ambell genhedlaeth arall hefyd.

Dw i am osgoi crybwyll ei fandiau blaenorol, a dweud yn syml fod gweld Mark Roberts yn mentro gyda phrosiect unigol am y tro cyntaf, Mr, yn beth bendigedig.

Mae albwm Oesoedd yn llawn o draciau cofiadwy – ‘Hen Ffrind’ a ‘Bachgen’ yn ddau sy’n dod i’r meddwl yn syth – ond ‘Y Pwysau’ oedd y sengl a ryddhawyd fel rhagflas i’r casgliad, ac mae rheswm da iawn am hynny. Tiwn!

https://soundcloud.com/strangetownrecords/y-pwysau

4. Gwenwyn gan Alffa

Roedd hi’n amhosib hepgor cân enwocaf 2018 o’r rhestr yma – efallai mai stori gerddoriaeth fwyaf 2018 oedd y ffaith mai ‘Gwenwyn’ gan Alffa oedd y gân Gymraeg gyntaf i gael ei ffrydio filiwn o weithiau ar Spotify.

Mae’r trac, a’r grŵp wedi cael llwyth o sylw ers hynny ac yn prysur wneud ei ffordd at gyrraedd dwy filiwn!

Ond, er tegwch, nid yr heip ydy cyfrinach llwyddiant y gân (er fod hynny’n helpu) – mae’n dipyn o diwn hefyd. Ers i’r stori am y llwyddiant Spotify dorri mae’r fideo i’r trac wedi dod yn boblogaidd iawn hefyd a bellach wedi ei wylio dros 15,000 o weithiau.

https://soundcloud.com/yselar/gwenwynalffa

3. YPysgotwr gan The Gentle Good

Efallai fy mod i’n meddalu yn fy henaint, ond dw i wrth fy modd efo cerddoriaeth felodig a phrydferth The Gentle Good.

Enillodd ei albwm diwethaf, yr ardderchog Ruins/Adfeilion, deitl y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2017. Fy hoff gân o’r casgliad hwnnw oedd y trac Saesneg ‘The Fisherman’ sy’n dod yn agos iawn i ‘Llosgi Pontydd’ fel fy hoff gan The Gentle Good.

Newyddion da o lawenydd mawr oedd hi wrth glywed fod fersiwn Gymraeg o’r trac i’w gynnwys ar yr EP, Y Gwyfyn, ym mis Chwefror 2018 felly. Ac mae hyd yn oed yn fwy hyfryd na’r fersiwn wreiddiol…

https://soundcloud.com/thegentlegood/y-pysgotwr

Y Diweddaraf gan Adwaith

Bydd 2018 yn cael ei chofio gan rai fel blwyddyn Adwaith. Mae’r grŵp o Sir Gâr wedi bod ym mhobman dros y flwyddyn ddiwethaf, gan berfformio ar lwyfannau mawr a bach, a chael sylw eang.

Mae ganddyn nhw agwedd, a stori, i’w dweud – ac mae naratif cryf, ar y cyd â cherddoriaeth dda, yn gallu mynd yn bell.

Fe wnaethon nhw ryddhau eu halbwm cyntaf, Melyn, ym mis Hydref a hynny ar record feinyl lliw, sy’n braf iawn ei weld.

Fel i Fod’ ydi’r trac sydd wedi bod yn boblogaidd ar Spotify, ac mae ‘Gartref’ wedi cael tipyn o sylw yn rhannol diolch i fersiwn wedi’i ail-gymysgu gan James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers.

Ond i mi, ‘Y Diweddaraf’ ydi eu trac gorau hyd yma diolch i’r riff gitâr budr, y llinell fasagwedd pynci a neges gref y geiriau.

https://youtu.be/3X5nkO_sGcE

1. Datgysylltu – Los Blancos

Reit, cyfaddefiad – y gân ‘Datgysylltu’ gan Los Blancos oedd yr un ro’n i wedi setlo arni ar gyfer y rhestr yma nes i mi sylwi ei bod hi ar y rhestr llynedd!

Rhyddhawyd ‘Datgysylltu’ fel sengl ym mis Chwefror, ond roedd fideo gan Ochr 1 o gwmpas ers Tachwedd 2017… felly dyna egluro’r dryswch!

Mi ddois i ar draws Los Blancos gyntaf diolch i ddemo o’r gân ‘Clarach’ a ymddangosodd ar eu safle Soundcloud dros ddwy flynedd yn ôl.

Rhyddhawyd hon yn swyddogol fel sengl yn ar y cyd gyda’r gân ‘Cadi’ ym mis Mehefin ac mae’n esiampl berffaith o’r sŵn unigryw yma maen nhw wedi mireinio dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Dw i wrth fy modd efo’r adeiladwaith diog sy’n arwain at grescendo y gytgan… ac mae gen i fan gwan am bentre’ glan môr Clarach!

Mae’r fideo gan Nico Dafydd hefyd yn gampwaith.

Un o fandiau pwysicaf 2018, ac mae’n werth cadw golwg fanwl arnyn nhw yn 2019.