“Mae’n dechrau gydag emynau Ann Griffiths ac mae’n gorffen gyda jazz Duke Ellington.”
Dyna ddisgrifiad yr Athro Jerry Hunter o’i nofel hanesyddol, Ynys Fadog, sy’n olrhain dros gan mlynedd o hanes un gymuned Gymraeg yn nhalaith Ohio yn yr Unol Daleithiau.
Yn ôl yr awdur a ddaw’n wreiddiol o Cincinnati, Ohio, ac sy’n arbenigo mewn Llenyddiaeth Gymraeg Americanaidd, bwriad y nofel yw “archwilio’r profiad Cymreig Americanaidd trwy gyfrwng cymeriadau ffuglennol…”
Mae’r gyfrol swmpus yn cynnwys dros 500 o dudalennau, ac wrth i’r stori gychwyn yn 1818 a gorffen yn 1937, mae Jerry Hunter yn fodlon arddel y term “epig” i’w disgrifio.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod y Gymraeg yn cael ei hymestyn i fynd i’r afael â phob un pwnc posib, ac i bobol gofio bod y Gymraeg fel cyfrwng llenyddol a chyfrwng celfyddydol yn gallu trafod unrhyw beth yn y byd,” meddai’r ysgolhaig a’r Prif Lenor.
“Fel y dywedodd rhywun arall rhywdro, mae’n anodd iawn, iawn i gael arian i greu ffilmiau epig Cymraeg, fatha ffilmiau epig Hollywood, i ddarlunio pethau mawr… ond rydan ni’n gallu gwneud hynna trwy gyfrwng ffuglen.”
Hanes wedi’i impio ar hanes
A’r nofel wedi’i chyhoeddi ddiwedd 2018, dywed Jerry Hunter mae “cyd-ddigwyddiad” oedd y ffaith iddi ymddangos yr un flwyddyn â’r dathliadau Cymry-Ohio yng Ngheredigion.
Ond yn hytrach na chanolbwyntio ar un o’r chwe theulu a ymfudodd o ardal Dyffryn Aeron yn 1818, mae prif sylw’r stori ar deulu o Sir Gaernarfon a ymsefydlodd yn yr un ardaloedd yn Jackson a Gallia County.
“Dw i’n sôn tipyn am y cymunedau go iawn ac mae yna lawer o ddyfyniadau go iawn yn y nofel,” meddai ymhellach.
“Mae pethau wedi’u cymryd o’r wasg Gymraeg Americanaidd, fel Y Drych, Y Cenhadwr Americanaidd a’r papurau Cymraeg eraill oedd yn cael eu cyhoeddi yn America ar y pryd.
“Mae yna lawer o ffynonellau go iawn er mwyn i bobol gofio bod yr holl hanes ar glawr a chadw i ni ei droi ato fo o hyd.”
Dyma glip sain o Jerry Hunter yn darllen darn o Ynys Fadog…