Mae cynllun pontio’r cenedlaethau wedi cael ei sefydlu’n ddiweddar yng nghartref Kate Roberts.

Pwrpas y cynllun yng Nghae’r Gors, Rhosgadfan ger Caernarfon yw dod â’r to iau a’r to hŷn ynghyd i rannu syniadau, sgiliau a phrofiad.

Abby o Ysgol Rhosgadfan ddaeth i’r brig yn y sesiwn gyntaf am enwi’r cynllun yn ‘Paned a Sgwrs’ a chreu’r poster buddugol i hyrwyddo’r digwyddiad, gan ennill wy Pasg siocled.

Cynllun ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd, Ysgol Gynradd Rhosgadfan ac Age Concern Gwynedd a Môn yw Paned a Sgwrs, a’r bwriad yw cyfarfod yn gyson er mwyn cymryd rhan mewn sesiynau crefftau, cefnogi plant i ymarfer a mwynhau darllen, a gwahodd cerddorion i gynnal sesiynau.

Abby yn derbyn wy Pasg

‘Digon o hwyl a sgwrsio’

Yn ôl y Cynghorydd Arwyn Roberts, sy’n cynrychioli’r ardal ar Gyngor Gwynedd, mae hwn yn brosiect fydd yn “cau’r gagendor sydd i’w deimlo gan rai rhwng y cenedlaethau”.

“Mae’n gyfle hefyd i gymdeithasu a lleihau’r teimlad o ynysu mae rhai pobol hŷn yn ei brofi wrth aeddfedu, colli anwyliaid a cholli hyder,” meddai.

“Roedd cael adborth gan bawb yn y sesiwn cyntaf ynglŷn â’r hyn yr hoffen nhw ei wneud yn y sesiynau yn chwa o awyr iach.

“Mae’r elfen o ddysgu yn digwydd bob ffordd a gobaith rhai o’r to iau oedd dysgu’r to hŷn sut i ddefnyddio’r rhyngwyd tra bod yr oedolion hŷn yn awyddus i rannu sgiliau gwaith llaw, fel gwau, i’r disgyblion cynradd.

“Beth bynnag fydd y gweithgaredd, bydd digon o hwyl a sgwrsio i’w gael.”

Bydd y sesiwn nesaf yn cael ei chynnal ddydd Mercher, Mai 3 am 1:30 y prynhawn.