Bydd cylchgrawn Llafar Gwlad yn dod i ben flwyddyn nesaf ar ôl deugain mlynedd.

Myrddin ap Dafydd sydd wedi bod yng ngofal y cylchgrawn gwerin gwlad ers y cychwyn cyntaf, ond mae e wedi penderfynu peidio ag ail-drio am gefnogaeth ariannol y Cyngor Llyfrau eleni.

Bydd y cylchgrawn yn dod i ben ar rifyn 160 ym mis Mai 2023, union ddeugain mlynedd ers ei gychwyn.

Wrth siarad â golwg360, dywedodd Myrddin ap Dafydd, sy’n cyhoeddi’r cylchgrawn yng Ngwasg Carreg Gwalch, ei fod yn dod at ddiwedd ei yrfa ac nad yw’n dymuno bod rhywbeth y mae yntau wedi’i greu yn “rhwystr i do nesaf y wasg rhag datblygu rhywbeth fyddai’n addas i’w ffordd nhw o weld pethau”.

Mae’n parhau i ymddiddori’n arw ym maes y traddodiad gwerin, ac yn gobeithio y bydd cylchgrawn newydd ar y pwnc yn cael ei gyhoeddi rywbryd yn y dyfodol gan y to ifanc.

“Dw innau’n mynd yn hŷn ac rydyn ni mewn cyfnod lle y bydd yna wynebau newydd yn dod mewn i’r wasg,” meddai Myrddin ap Dafydd.

“Mae hwn wedi bod yn fabi gen i ar hyd fy nghyfnod fel cyhoeddwr â dweud y gwir, mae o’n fyd agos iawn at fy nghalon i.

“Roedden ni’n cael cefnogaeth gan y Cyngor Llyfrau o tua rhifyn 10 ymlaen, ond mewn gwirionedd roedd y wasg yn noddi’r cylchgrawn mewn llawer mwy na’r arian roedden ni’n ei gael gan y Cyngor Llyfrau.

“Mae papur wedi mynd yn ddrytach, mae popeth wedi mynd yn ddrytach, amser pawb yn ddrytach.

“Efallai bod cyfnod y cylchgrawn yma dan fy nhrefn i’n dod i ben, a doeddwn i ddim eisiau trosglwyddo’r cylchgrawn i genhedlaeth arall a hwnnw’n faen am eu gyddfau nhw.

“Dw i’n meddwl bod y maes yn eithriadol o ddiddorol a bod pobol ifanc a tho ifanc â diddordeb mawr ynddo fo hefyd.

“Mae yna safle ‘Iaith’ gan Guto Rhys ar Facebook, ac mae yna 14,000 yn dilyn hwnna ac yn cyfrannu.

“Mae o’n rhywbeth oesol y maes yma – llên gwerin, traddodiad gwerin, iaith, tafodiaith, hiwmor, straeon.

“Dw i’n meddwl efallai y gwneith y maes greu ryw gylchgrawn arall yn y dyfodol, ond nid fi fydd yn arwain hwnnw.”

Pontio Cymru gyfan… a thu hwnt

Mae’r deugain mlynedd yn gweithio ar Llafar Gwlad wedi bod yn llwyfan i ddod i adnabod llwyth o gymeriadau, meddai Myrddin ap Dafydd wrth edrych yn ôl.

“Llythyrau oedden ni’n eu cael ar y dechrau, erthyglau, lluniau. Mae pobol wedi ymateb i’r ysgrifau.

“Mae o’n ymwneud â chyfoeth naturiol gwerin gwlad mewn ffordd, diwydiannol a gwledig. Mae o’n pontio Cymru gyfan.

“Mae o hefyd yn ymwneud â gwerinoedd ymhob rhan o’r byd, achos [efo] bywyd gwerin mae yna elfennau tebyg iawn yn rhyngwladol ac mae hi wedi bod yn braf iawn, iawn sbïo dros ffiniau ac edrych ar ddiwylliannau eraill hefyd o gyd-destun y diwylliant Cymraeg.

“Mae o’n fyd eithriadol o ddifyr, yn fyd rhyngwladol, a dw i wedi cael pleser mawr.

“Dw i wedi cyfarfod dwn i ddim faint o gymeriadau, a chymeriadau go iawn, lliwgar efo iaith liwgar ac efo straeon gwerth gwrando arnyn nhw.

“Dw i wedi rhwymo’r cylchgronau o’r dechrau, ac mae byseddu’r cyfrolau yna’n dod ag atgofion braf iawn yn ôl i mi.”

Gobaith Myrddin ap Dafydd yw y bydd cylchgrawn tebyg yn ymddangos rywdro.

“Dim yn syth bin, ond yn sicr dw i’n meddwl bod gan y to iau ddiddordeb yn y cyfeiriad yma,” ychwanega.

“Dw i’n siŵr y bydd o’n ailymddangos mewn rhyw ffurf neu’i gilydd, dan ryw enw, yn y dyfodol.”