Mae nofel newydd Ffion Enlli, Cwlwm (Y Lolfa), yn gofyn a yw pobol yn perthyn i ddarn o dir, ac yn codi cwestiynau am Gymru, y Gymraeg a chenedlaetholdeb.

Ymhlith cwestiynau mawr eraill y nofel mae ‘pwy fydden ni heb gyfyngiadau cymdeithas?’ ac ‘ydy cenedl heb iaith wir yn genedl heb galon?’

Bydd Cwlwm yn cael ei lansio yng Nghanolfan Felin Uchaf nos Sadwrn, Hydref 29 am 7.30yh.

Yn ogystal â sgwrs gyda’r awdur, bydd Casi Wyn yn perfformio.

Ffion Enlli

Cafodd Ffion Enlli ei magu yn Aberdaron ym mhen draw Llŷn.

Bu’n byw, astudio a gweithio yn Paris, Perpignan, Surrey a Llundain.

Er bod darn o’i chalon yn dal dros y dŵr yn Ffrainc, hap a damwain a phandemig ddaeth â hi’n ôl i fro ei mebyd yn llawer cynt nag yr oedd hi wedi’i fwriadu.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae hi wedi bod yn rhedeg caffi fel rhan o brosiect cymunedol Plas Carmel yn Anelog.

Mae hi wedi bod yn brysur dros y flwyddyn ddiwethaf yn ysgrifennu ei nofel gyntaf sy’n dilyn bywyd Lydia Ifan wrth iddi straffaglu trwy ei hugeiniau yn Llundain.

Mae byw yn un o ddinasoedd mwyaf y byd yn peri i Lydia ddechrau gofyn cwestiynau ac wrth iddi chwilio am yr atebion, mae hi’n colli gafael ar y person roedd hi’n meddwl oedd hi.

Nofel am gymhlethdodau hunaniaeth Gymreig yw hi, ac am wreiddiau a gollwng gafael, am berthyn a bod ar goll.

Yng ngeiriau Casi Wyn: “Dyma nofel bwysig sy’n saff o dynhau a llacio clymau hunaniaeth pob un ohonom”.

‘Cariad dwfn, pwerus – weithiau dall – tuag at wlad a darn o dir’

“I mi, mae yna gariad dwfn, pwerus – weithiau dall – tuag at wlad a darn o dir pan mae hi’n dod at gael eich magu mewn cenedl leiafrifol,” meddai Ffion Enlli.

“Mae yna deimlad amhrisiadwy o berthyn ac o bwrpas ond mae yna hefyd deimlad fod rhaid brwydro.

“Wedi mynd i ffwrdd, mae yna wastad lais yng nghefn meddwl rhywun yn eu tynnu yn ôl.

“Roeddwn i eisiau’r cyfleu’r teimladau hyn mewn cyd-destun dinesig, yn defnyddio cymeriadau o wahanol wledydd a chefndiroedd.

“Nid yn unig er mwyn chwarae efo’r cyferbyniad rhwng y ddau fyd – ond hefyd i ddangos y cymhlethdodau a’r ecstasi sy’n bodoli yn y ddau.

“Dw i eisiau i’r nofel hon agor meddyliau a gofyn cwestiynau, nid cynnig atebion, cychwyn sgyrsiau gonest am genedlaetholdeb, rhywiaeth a rhywioldeb – a sut mae hyn yn clymu i mewn i’n ffordd ni o fyw fel Cymry yn yr unfed ganrif ar hugain.”