Darllenais â diddordeb y stori am y gân sgwennwyd gan Lleuwen yn ystod y cyfnod hiiiir o alaru dros farwolaeth y Frenhines, a’r ffaith na chafodd ei chwarae gan Radio Cymru. Difyr oedd hyn, wrth ddarllen geiriau’r gân, gan fod yna elfen meta i’r stori – sgwennu cân wrthdroadol, sydd wedyn yn cael ei heithrio gan y sefydliad.

Cefais brofiad tebyg yn ddiweddar. Roeddwn wedi holi un o’r cyhoeddwyr llyfrau Cymreig ynglŷn â’r posibiliad o gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth hefo nhw; cefais fy ngwrthod, a hynny’n rhannol ar sail y ffaith nad oeddwn, yn eu tyb nhw, wedi cystadlu mewn digon o eisteddfodau a gwrando ar adborth y beirniaid – gan taw dyma sut i feistroli’r grefft o farddoniaeth, ynte?

Roedd hyn yn rhyfygus ac yn anghywir beth bynnag. Pan ddechreuais fy siwrne o farddoni’n gyhoeddus, tua 2004, mi wnes i geisio cystadlu yn yr eisteddfodau bach, a hefyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond yr un adborth ges i bob tro – sylwadau am safon fy llythrennedd, rhywbeth sydd yn anodd iawn ei drwsio oherwydd fy anabledd a’r diffyg cefnogaeth ‘Anghenion Addysgol Arbennig’ (SEN) ges i yn yr ysgol.

Y sefydliad Cymreig

Mi wnaeth hyn hefyd amlygu’r sail hierarchaidd sydd wrth wraidd y sîn cyhoeddi Cymreig – cystadlaethau elitaidd, cul, sydd yn dibynnu ar chwaeth niwrotypical y sefydliad, sy’n disgwyl i ‘ddarpar feirdd’ ddysgu am y diwylliant yma a’i ymgorffori. Ond effaith hyn yw cadw pethau’n undonog ac eithrio rhai lleisiau amrywiol, gan gynnwys pobol niwroamrywiol.

Nawr ‘te, dw i ddim yn dweud nad oes lle i eisteddfodau – maent yn draddodiadau hynafol, pwysig o ran gwarchod a dathlu ‘diwylliant Cymreig’. Nid wyf ychwaith yn grwgnach hawl ‘y beirdd gorau’ hyn – pobol niwrotypical a/neu rheini sydd rywsut yn medru bodloni’r meini prawf – i gael y gydnabyddiaeth o hyn, ddim o gwbl. Ond ai dyma’r unig fath o ‘feirdd’ ni mo’yn eu cydnabod yn ein cymdeithas trwy gyhoeddi eu barddoniaeth?

Rwy’n ymwneud â sawl rhwydwaith creadigol rhyngwladol erbyn hyn, a dw i yn darllen gwaith beirdd o bedwar ban y byd. Y mae rhai yn gynnil, tra bod eraill ‘in rough verse’, fel bysa Ted Hughes yn dweud. Ac mae sawl un ohonynt, fel fi, yn sgwennu am anableddau megis nam yr ymennydd. Mae’r pwnc yma ynddo’i hun yn rywbeth sy’n herio’r sefydliad Cymreig.

Teilyngdod bardd a llenor niwroamrywiol?

Mae sawl ffordd o herio’r hyn rwy’n ei honni fa’ma, a dw i wedi’u clywed nhw i gyd. Onid diffyg ymdrech yw diffyg llythrennedd? Angen darllen mwy o lyfrau Cymraeg ella’, er mwyn gwella safon fy Nghymraeg? Ai diffyg Cymreictod yw’r broblem yn y bôn?

Os felly, pam fod gen i’r un problemau dysgu trwy gyfrwng y Saesneg? Mae gen i ddoethuriaeth ‘Ymchwil Seicoleg Glinigol’ (yn ôl trawsgrifiad Prifysgol Lerpwl). Ac eto, ni fedraf sillafu ‘Psychology’ yn hyderus, heb gefnogaeth ‘Spellcheck’ Saesneg. Ac oes, mae gen i Cysill – ond tydi o ddim mor effeithlon â’r Spellcheck Saesneg, yn anffodus. O do, wnes i bach o ymdrech i gael doethuriaeth!

Yr elfen ‘meta’

Pan welais fod Disability Arts Cymru yn cynnal cystadleuaeth ‘Geiriau creadigol’ hefo’r thema ‘Aildanio’, daeth yr awen i mi fel hwrdd o ddicter, ac mi sgwennais y stori gyfan – y boen, y drengdra, pob dim mewn un gerdd.

Megan Angharad Hunter oedd y beirniad cyfrwng Cymraeg, ac mi wnaeth hi ddewis fy ngherdd i. Mae hyn wedi rhoi hwb anferthol i mi, gan fy mod yn ei hedmygu fel llenor. Hefyd, wrth sbïo ar waith y llenorion eraill, teimlais yn fwy balch fyth gan fod y safon mor uchel.

Ond yn anffodus, er i bob dim gael ei blatfformio ar lwyfan AMAM, gan gynnwys fideos ohonom yn darllen ein gwaith, ac er i’r gystadleuaeth gael ei hyrwyddo fel un ‘fawreddog’, ‘chydig iawn o sylw y cafodd yn y diwedd. Yn wir, ni chafodd sylw yn y cylchgronau Cymreig, er i bob un ohonynt dderbyn datganiad i’r wasg gan Gyngor Llyfrau Cymru, sef un o’r noddwyr.

Yr wyf felly wedi cyfieithu fy ngherdd fuddugol, a chreu pamffled dwyieithog y medrwch ei lawrlwytho am ddim. Ac, wrth i mi sgwennu’r geiriau hyn, rwyf yn fodlon fy myd fod y gair am y rhagfarn yn erbyn pobol hefo anableddau, sef ‘ablaeth’, am gael ei ddefnyddio ar wefan golwg360 am y tro cyntaf erioed – gan ychwanegu at weddill geirfa cydraddoldeb, sydd yn gyfarwydd bellach.

A phwy a ŵyr, ella’ rhyw ddydd caiff y geiriau ‘Ablaeth’ ac ‘anablaeth’ (disableism) weld golau dydd rhwng cloriau cylchgrawn Golwg ei hun – pam lai, mae unrhyw beth yn bosib!

Ôl-nodyn o eglurhad:

Mae hi wedi dod i’r amlwg fod sylwadau cloi’r erthygl braidd yn amwys, gyda’r posibiliad o gael ei chamddehongli, felly esboniaf ymhellach fa’ma.

Y sylwadau dan sylw oedd: ‘Ac, wrth i mi sgwennu’r geiriau hyn, rwyf yn fodlon fy myd fod y gair am y rhagfarn yn erbyn pobol hefo anableddau, sef ‘ablaeth’, am gael ei ddefnyddio ar wefan golwg360 am y tro cyntaf erioed – gan ychwanegu at weddill geirfa cydraddoldeb, sydd yn gyfarwydd bellach…A phwy a ŵyr, ella’ rhyw ddydd caiff y geiriau ‘Ablaeth’ ac ‘anablaeth’ (disableism) weld golau dydd rhwng cloriau cylchgrawn Golwg ei hun – pam lai, mae unrhyw beth yn bosib!’

Fy mwriad fan hyn oedd tynnu sylw at y ffaith nad yw ‘ablaeth’ (ableism) nac ‘anablaeth’ (disableism) wedi cael ei drafod erioed gan fasnachfraint golwg – nid yn y cylchgrawn copi caled, nac ychwaith ar golwg+ (y cylchgrawn digidol), nid ar wefan golwg360, nac yn adrannau’r papurau bro; nunlle… neu o leiaf ddim yn hanes y fasnachfraint y medrwch ei archwilio ar-lein trwy’r blwch ‘chwilio’.

Peth handi iawn yw’r cyfleuster ‘chwilio’ er mwyn ymofyn gwybodaeth ddigidol. Wrth gwrs, mae unrhyw archwiliad yn cael ei gyfyngu gan gywirdeb y wybodaeth sydd wedi ei llwytho i’r gronfa data sy’n sail i’r wefan, a hefyd faint o flynyddoedd o’r archif sydd wedi eu llwytho. Ond gyda’r cafeat yna yn ei le, fyswn i hefyd yn cynnig y medrwn dybio mai allweddair weddol newydd yw ‘ablaeth’, ac felly os na chafodd ei drafod yn y pum mlynedd diwethaf, siawns fod o wedi cael ei drafod cyn hynny.

Mae’n bosib canfod hanes trafod rhagfarn ar wefan golwg360 yn weddol hawdd trwy’r blwch ‘chwilio’. Gan fentro allweddeiriau iddi, cewch o hyd i’r straeon amrywiol lle mae’r allweddeiriau am ragfarnau gwahanol wedi cael eu defnyddio. Mae geiriau megis ‘Misogyny’, ‘Patriarchaeth’, ‘Hiliaeth’, ‘Homoffobia’, ac ‘Islamoffobia’, i gyd yn dychwelyd llwythi o storïau grymus sy’n mynd i’r afael â’r materion hynod bwysig hyn, sy’n galonogol i’w weld. Ond, pan es i ati i archwilio’r wefan, gan nad oeddwn wedi gweld stori am y gystadleuaeth ‘Geiriau creadigol’ o gwbl, synnais a siomais wrth weld sgrin blanc o fy mlaen – y tumbleweed trosiadol yn y byd digidol… tydi’r allweddair ‘ablaeth’ byth wedi cael ei ddefnyddio, nac ychwaith ‘anablaeth’, ac felly nid oes trafodaeth rymus wedi bod am y rhagfarn tuag at bobol anabl byth wedi ei chynnwys gan y fasnachfraint.

Dyma pam roeddwn yn fodlon fy myd gyda fy erthygl gyntaf, a hefyd nawr hefo’r erthygl yma, gan fod cyhoeddi’r erthyglau hyn yn nodi’r allweddeiriau hollbwysig yng nghronfa ddata golwg360. Fodd bynnag, braf iawn byddai eu gweld yn y cylchgrawn copi caled rhywdro.