Menna Lloyd Williams yw enillydd Gwobr Mary Vaughan Jones eleni.

Bob tair blynedd, mae Cyngor Llyfrau Cymru’n cyflwyno’r wobr er cof am Mary Vaughan Jones, awdur Sali Mali a’i ffrindiau, a fu farw yn 1983, i berson sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant.

Menna Lloyd Williams oedd pennaeth cyntaf Adran Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru, a chyn hynny bu’n gyfarwyddwr Canolfan Llenyddiaeth Plant Cymru, y ganolfan gyntaf o’i math yng ngwledydd Prydain.

Yn wreiddiol o Lanfaethlu ar Ynys Môn, cafodd Menna Lloyd Williams ei haddysg yn Ysgol Ffrwd Win ac yn Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch.

Cystadlaethau

Bu’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, a graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg.

Ar ôl dilyn cwrs ymarfer dysgu, bu’n athrawes am flwyddyn yn Ysgol Dr Williams, Dolgellau, cyn cael ei phenodi’n Bennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Caergybi yn 1970.

Yn ystod ei chyfnod gyda’r Cyngor Llyfrau, bu’n bennaf gyfrifol am drefnu cynadleddau blynyddol i drafod gwahanol agweddau ar lenyddiaeth plant, Gwobrau Tir na n-Og, clybiau llyfrau, a chystadlaethau darllen i ysgolion.

Mewn cydweithrediad ag Adran Blant S4C ac Urdd Gobaith Cymru, bu’n gyfrifol am sefydlu cynllun Bardd Plant Cymru.

“Anrhydedd”

Dywedodd Menna Lloyd Williams ei bod hi’n “anrhydedd o’r mwyaf” derbyn y wobr eleni.

“Roedd pob diwrnod o weithio ym maes llyfrau plant yn bleser pur,” meddai.

“Rwy’n parhau i ymddiddori yn y maes ac yn cael mwynhad arbennig bellach yn casglu argraffiadau cyntaf, clawr caled, wedi eu harwyddo gan yr awduron a’r darlunwyr – yn eu mysg, llyfrau Roald Dahl wedi eu harwyddo gan Quentin Blake ac un o’m trysorau pennaf, argraffiad cyntaf o Sali Mali gan Mary Vaughan Jones.”

“Allweddol”

Mae cyfraniad Menna Lloyd Williams wedi bod yn “allweddol i ddatblygiad llyfrau plant a phobol ifanc yng Nghymru”, meddai Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau.

“Mae’n anodd mesur maint ei dylanwad dros y blynyddoedd.

“Wrth ei hanrhydeddu â Gwobr Mary Vaughan Jones – yr anrhydedd uchaf ym maes llyfrau plant yng Nghymru – rydym yn cydnabod ei chyfraniad amhrisiadwy ac yn diolch am ei gwaith dros nifer o flynyddoedd.”

Mae darn o waith celf gwreiddiol gan Jac Jones, sy’n gyn-enillydd y wobr ac sydd wedi cydweithio â Menna Lloyd Williams yn y gorffennol, wedi cael ei gomisiynu fel gwobr.

Digidol

Mae’r darn yn cynnwys cymeriadau Mary Vaughan Jones, fel Jac y Jwc a Jini a gafodd eu darlunio’n wreiddiol gan Jac Jones, yn ogystal â phortreadau o Mary Vaughan Jones a Menna Lloyd Williams yn y canol.

Bydd digwyddiad digidol yn cael ei gynnal ar 2 Tachwedd i ddathlu llwyddiant Menna Lloyd Williams, a bydd yn cael ei ddarlledu ar sianel Cyngor Llyfrau Cymru ar AM fel rhan o ddathliadau’r Cyngor Llyfrau’n 60 oed.

Ers i’r wobr gael ei chyflwyno am y tro cyntaf yn 1985, mae Emily Huws, T. Llew Jones, Roger Boore, Angharad Tomos, Gareth F. Williams, a Siân Lewis ymysg yr enillwyr.