Mae dwy storïwraig – un brofiadol, ac un eitha’ newydd – yn rhoi’r cyfle i chi wrando ar yr hen hanesion yn cael eu hadrodd ar Zoom…

Fe fydd y Clwb Stori Cymraeg cyntaf erioed yn digwydd nos Sul nesaf, lle bydd cyfle i bawb wrando dros Zoom ar bedwar storïwr profiadol yn adrodd chwedlau o Gymru a thu hwnt.

Ac ar noson gyntaf y clwb newydd y storïwyr gwadd fydd Mair Tomos Ifans a Michael Harvey, dau o enwau mwyaf profiadol y sîn chwedleua gyfoes Gymraeg.