Svetlana Alexievich
Svetlana Alexievich o Felarws yw enillydd Gwobr Lenyddol Nobel eleni, a hynny am gyfres o weithiau a gafodd ei disgrifio fel “cofgolofn i ddioddefaint a dewrder” gan y beirniaid.

Llenyddiaeth newyddiadurol yw arbenigedd Alexievich, 67, wrth iddi fynd ati i adrodd hanes tranc yr Undeb Sofietaidd, yr Ail Ryfel Byd, y rhyfel Sofietaidd yn Afghanistan, trychineb Chernobyl a thranc Comiwnyddiaeth.

Cafodd ei nofel gyntaf, ‘The Unwomanly Face of the War’ ei chyhoeddi yn 1985, yn adrodd hanes menywod oedd wedi ymladd yn erbyn y Natsiaid yn yr Ail Ryfel Byd.

Mae ei nofelau wedi cael eu cyhoeddi mewn 19 o wledydd, ac mae hi’n awdures tair drama a sgriptiau ar gyfer 21 o ffilmiau dogfen.

Bydd enw enillydd Gwobr Heddwch Nobel yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener, ac enw enillydd y Wobr Economaidd yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun.

Bydd yr holl wobrau’n cael eu rhoi i’r enillwyr mewn seremoni arbennig ar Ragfyr 10, sef y dyddiad y bu farw Alfred Nobel yn 1896.

‘Prynu rhyddid’

Wrth drafod rhinweddau Alexievich, dywedodd Sara Danius, ysgrifennydd Academi Sweden, sy’n trefnu’r wobr: “Mae hi’n rhagori ar fformat newyddiaduraeth ac mae hi wedi datblygu genre llenyddol newydd sy’n dwyn ei harwyddnod.”

Astudiodd Alexievich newyddiaduraeth ym Melarws, oedd yn rhan o’r Undeb Sofietaidd ar y pryd.

Mae hi bellach yn byw yn y brifddinas, Minsk, lle mae hi’n un o wrthwynebwyr yr arlywydd Alexander Lukashenko.

Mae hi’n ennill wyth miliwn Kronor (£633,000) fel rhan o’r wobr.

Dywedodd: “Rwy’n gwneud un peth yn unig: prynu fy rhyddid fy hun. Mae hi’n cymryd amser hir i ysgrifennu fy llyfrau, o bump i ddeng mlynedd.

“Mae gen i ddau syniad ar gyfer llyfrau newydd felly rwy’n falch y bydd gen i’r rhyddid bellach i weithio arnyn nhw.”