Rebecca John
Mae awdures o Gymru wedi cael ei henwebu ar gyfer gwobr ryngwladol i gydnabod gwaith awduron addawol rhwng 18 a 30 oed.

Roedd Rebecca F John o Lanelli yn un o chwe enw ar restr hir gwobr ‘PEN New Voices’, ar gyfer awduron sydd heb gyhoeddi eu nofel gyntaf eto.

Mae ei stori fer, ‘Moon Dog’, yn rhan o gyfrol straeon byrion fydd yn cael ei chyhoeddi gan Wasg Parthian nes ymlaen eleni.

Bydd y rhestr hir o chwech yn cael ei lleihau i restr fer o dri mewn ychydig wythnosau, gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yng nghynhadledd PEN yn Quebec, Canada ar 14 Hydref.

Cystadlu o bob cwr

Bydd Rebecca F John yn cystadlu yn erbyn pum awdur arall sydd ar y rhestr hir: Carien Smith (Afrikaans), Nozizwe Dube (Fflandrys), Lea Sauer (Yr Almaen), Sophie Prevost (Quebec) ac Ana Dontsu (Rwmania).

Beirniaid y gystadleuaeth eleni fydd Zakariya Amataya, Juan Tomás Ávila Laurel, Edwige-Renée Dro, Drago Jančar, Yann Martel and Olga Tokarczuk.

“Roedd Rebecca yn ddewis naturiol ar gyfer yr enwebiad eleni,” meddai Fflur Dafydd, un o gadeiryddion PEN Cymru.

“Mae ganddi lais cryf unigryw sy’n gweithio ar lefel rhyngwladol, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â hi a chefnogi ei gyrfa.

“Rydym yn hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth o bosibiliadau PEN Cymru fel canolfan rhyngwladol i awduron, ac ry’n hefyd yn annog awduron ifanc eraill sydd â diddordeb mewn cael eu hystyried ar gyfer y wobr y flwyddyn nesaf i gysylltu â ni, boed rheiny’n awduron Cymraeg neu Saesneg eu hiaith.”