Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru (Llun: Golwg360)
Yn wreiddiol o Nefyn ym Mhen Llŷn mae Bardd Plant newydd Cymru bellach yn byw yng Nghaerdydd lle mae’n aelod o dîm Y Ffoaduriaid ar raglen radio Talwrn y Beirdd.

Casia Wiliam yw’r pymthegfed bardd i ymgymryd â’r rôl wedi i’r prosiect ddechrau yn 2000.

Fe fydd hi’n cydio yn yr awenau yn swyddogol ym mis Medi a hynny am ddwy flynedd, gan olynu Anni Llŷn a fu’n Fardd Plant am y ddwy flynedd diwethaf.

“Dw i’n gobeithio atgoffa plant mai un o bleserau mawr barddoniaeth ydy gwrando ar gerddi, nid jest eu darllen nhw mewn llyfr yn unig …maen nhw’n rhywbeth i rannu,” meddai wrth golwg360.

‘Datblygu platfform’

Mae’r ferch 29 oed yn hen law ar farddoni gan gystadlu mewn talyrnau ac ymrysonau ac mae hefyd wedi cyhoeddi dau lyfr i blant ac addasu dwy o nofelau Michael Morpurgo i’r Gymraeg.

“Dw i’n awyddus i annog y plant a datblygu platfform iddyn nhw berfformio eu cerddi,” meddai gan esbonio ei bod yn gweithio yn Swyddog i’r Wasg Oxfam Cymru a newydd ddod yn fam i Caio Gwilym sy’n 5 mis oed.

Yn y seremoni ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd esboniodd Anni Llŷn iddi hi ymweld ag 83 o ysgolion yn ystod ei dwy flynedd, a disgrifiodd Casia Wiliam yn “fardd ac awdur gwych.”

“Mae ganddi ddychymyg arbennig ac mae hi’n saff o fynd â phlant Cymru ar antur,” meddai.