Elain Roberts o Bentre’r Bryn ger Ceinewydd, Ceredigion yw Prif Ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.

Yn cystadlu dan y ffugenw I/II?, dyma’r tro cyntaf i’r ferch 22 oed gystadlu yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama.

Yn ysgrifennydd a darllenydd brwd, daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych y llynedd.

Daeth deg o ddramâu i law’r beirniaid Gethin Evans a Steffan Donnelly eleni.

Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i’w pherfformio ar unrhyw gyfrwng, ar gyfer dim mwy na dau actor, heb fod dros 15 munud o hyd.

‘Mynd i’r afael â chwestiynau mawr’

Yn cyfeirio at holl ymgeiswyr y Fedal Ddrama eleni, dywedodd y beirniaid ei bod hi’n “galonogol gweld bod yr awduron ifanc yn mynd i’r afael â chwestiynau mawr, tra hefyd yn rhoi sylw at gymeriad a drama gan osgoi bod yn bregethwrol wrth ymdrin â themâu swmpus”.

Mae Elain Roberts ar fin gorffen ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Bryste, lle mae hi’n astudio Ffrangeg a Gwleidyddiaeth.

Fel rhan o’i chwrs, treuliodd flwyddyn yn Lille yn Ffrainc y llynedd yn gweithio fel cynorthwy-ydd mewn ysgol uwchradd.

“Monolog yw I/II? sy’n mynd â ni yn syth at galon ein prif gymeriad,” meddai’r beirniaid.

“Wedi ei gosod mewn ciwbicl toiled, mae ein prif gymeriad yn aros am ganlyniad prawf beichiogrwydd.

“Gyda chydbwysedd medrus o hiwmor a drama, mae’r dramodydd yn ymdrin â chydsyniad yn grefftus, gan hefyd dal ein sylw gyda chymeriad sydd yn teimlo dryswch ac unigrwydd.

“Mae’r darn yma yn dod ag elfennau allweddol sgript gyffrous ynghyd – cymeriad perthnasol, ffurf clir, byd cyflawn, naratif sy’n esblygu, strwythur manwl a deialog bywiog.

“Y tu hwnt i’r elfennau hyn o grefft, mae’n sgript gonest sydd yn mynnu sylw, ac fel cynulleidfa teimlwn fel ein bod yn cael profi cyfrinachau’r prif gymeriad mewn ffordd nad yw’n rhannu gydag unrhyw un arall.”

Ysbrydoliaeth

“Dwi’n cofio meddwl i fy hunan pan symudais i’r brifysgol yn 18 oed pa mor agored roedd pobol eraill yn trafod pynciau roeddwn i, a byddwn i’n dadlau y rhan fwyaf o Gymry, yn eu gweld fel tabŵ,” meddai’r enillydd.

“Pethau fel perthynas pobl a’i gilydd, rhyw, y corff, teimladau a’r cymlethdod sy’n dod gyda phob un o’r rhain.

“Dyma’r ddrama gyntaf i fi ei hysgrifennu erioed felly mae’r ffaith fy mod wedi ennill yn rhoi hwb a hyder i mi ar gyfer y dyfodol.

“Mae anfon eich gwaith i gystadleuaeth mor fawr â’r Urdd yn gallu codi ofn ar rywun, dwi’n deall yn iawn.

“Rydych chi’n gallu teimlo’n agored i feirniadaeth ac yn amau eich gwaith ond mae e werth e.

“Mae wastad lle i leisiau newydd, ac mae angen i bobl eu clywed. Hefyd, mae’r adborth yn ddefnyddiol ar gyfer y dyfodol ac yn fwy na dim, gallech chi gael eich synnu ar yr ochr orau – pwy a ŵyr!”

Y Fedal

Caiff y Fedal Ddrama ei rhoi gan Deulu Penroc, Llanymddyfri, a chaiff y gystadleuaeth ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth.

Fel rhan o’r wobr, bydd cyfle i Elain Roberts dreulio blwyddyn fel Dramodydd Preswyl Ifanc gyda Theatr Genedlaethol Cymru.

Mae’r ail wobr yn mynd i Brennig Davies o Gaerdydd, a’r drydedd wobr i Leo Drayton o Radyr, Caerdydd.