Mae medalau wedi’u cyflwyno i Gwilym Morgan a Yvon-Sebastien Landais (Seb), enillwyr prif gystadlaethau’r dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.

Cafodd Medal y Dysgwyr (Bl.10 ac o dan 19 oed) ei dyfarnu i Gwilym Morgan o Gaerdydd, a Medal Bobi Jones i Seb Landais o Ddinbych y Pysgod ar gyfer dysgwyr ifanc rhwng 19-25 oed.

Nod cystadleuaeth Medal Bobi Jones yw gwobrwyo unigolyn 19-25 oed sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg, a Medal y Dysgwyr i ddysgwyr ifanc (Bl.10 – 19 oed).

Caiff y medalau eu dyfarnu i unigolion sydd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd, mewn ysgol, coleg neu waith ac yn gymdeithasol yn ogystal â hyrwyddo ac annog y Gymraeg ymysg eraill.

Medal y Dysgwyr: Bl10 ac o dan 19 oed

Cafodd nifer o dasgau eu rhoi i ymgeiswyr Medal y Dysgwyr ar hyd y Maes heddiw (dydd Mawrth, Mai 30).

Allan o unarddeg ymgeisydd, Gwilym Morgan – disgybl yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaff – ddaeth i’r brig.

Roedd y tasgau gafodd eu rhoi i’r cystadleuwyr yn cynnwys paratoi cyfres o frawddegau am eu hunain ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, cyfweliad gyda’r beirniaid Gwyneth Price a Rhodri Siôn, yn ogystal â sesiwn cwestiwn ag ateb gyda Llywydd y Dydd, y chwaraewr rygbi Wyn Jones.

Dechreuodd Gwilym Morgan ddysgu Cymraeg yn yr ysgol fel rhan o’i Lefel A, ond mae hefyd wedi ei ysbrydoli gan ei fam, ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2015.

“Penderfynais i ddysgu Cymraeg achos dw i’n caru’r iaith, credaf ei fod hi’n bwysig iawn i barhau ein hiaith, mae’n iaith o’n gwlad, mae’n rhan o’n diwylliant ac un rhan allweddol o bwy ydw i,” meddai.

“Dw i’n defnyddio fy Nghymraeg yn agos at bob dydd, yn ysgol lle dwi’n yr “Pennaeth yr iaith Gymraeg a diwylliant Gymru” am fy “tŷ”.

“Yn ddiweddar, dwi wedi ymuno’r Urdd i gael mwy o gyfleoedd.

“Es i ar gwrs swogio yng Nglan-llyn, â bob wythnos dw i’n rhedeg “Clwb Siarad” am y disgyblion yn yr ysgol eto.

“Hefyd, es i i’r Fforwm CfTi (Menter Iaith, Urdd a Cardiff Youth Services) i gael llais ar weithgareddau am bobol ifanc.”

Daeth Daisy Haikala o Lanfaes yn Aberhonddu yn ail, a Niki Scherer o Fangor yn drydydd.

Medal Bobi Jones: 19-25 oed

Seb Landais yw’r unig un yn ei deulu sydd yn siarad Cymraeg, ond roedd ei hen-hen fam-gu a hen-hen dad-cu yn arfer ei siarad.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg ar-lein drwy ddefnyddio Duolingo, ac mae’n mwynhau siarad yr iaith bob cyfle posib.

“Dechreuais i ddysgu Cymraeg achos Cymro dw i a dw i eisiau mynd drwy Cymru a siarad gyda phobol yn Gymraeg,” meddai.

“Pryd bynnag dw i gyda phobol Cymraeg, dw i eisiau siarad gyda nhw yn Gymraeg hefyd.”

Caiff Medal y Dysgwyr ei rhoi gan Gyngor Manordeilo a Salem, a Medal Bobi Jones gan Fenter Dinefwr.

Cafodd y seremoni ei noddi gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.