Mae’r Urdd wedi gohirio Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych tan fis Mai 2022, “oherwydd y sefyllfa bresennol yng Nghymru a thu hwnt o ran Covid-19”.

Bu’n rhaid i’r mudiad wneud y penderfyniad “er mwyn gwarchod iechyd a lles aelodau, gwirfoddolwyr a swyddogion yr Urdd yn ogystal â’r cyhoedd”.