Protest Cymdeithas yr Iaith
Fe fydd pryderon am sicrhau gwasanaethau Cymraeg gan gwmnïau mawr, fel cwmnïau ynni a ffonau symudol, yn cael eu codi mewn protest ar faes Eisteddfod Yr Urdd yng Nghaerffili’r prynhawn ‘ma.

Mae Cymdeithas yr Iaith, sy’n trefnu’r brotest, wedi beirniadu Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws am beidio cyhoeddi amserlen ar bryd mae’r cwmnïau mawr yn mynd i ddod yn rhan o’r fframwaith newydd.

Mae’r “methiant” hwn yn anghyfreithlon, meddai’r mudiad mewn llythyr at y Comisiynydd:

“Credwn fod eich prif nod yn ei gwneud yn angenrheidiol i wneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau bod y cwmnïau hyn yn ddarostyngedig i’r Safonau cyn gynted ag sy’n bosib.

“Rydym wedi ysgrifennu atoch sawl gwaith ynglŷn â hyn ac mae’n rhaid dweud ein bod ni fel mudiad yn hynod o rwystredig bellach nad ydych chi wedi gweithredu’r pwerau sydd gyda chi.”

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru)2011 yn rhoi grym i osod dyletswyddau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg ar gwmnïau ffon, bang eang, bws, trên ac ynni.

‘Esgusodion’

Dywedodd Manon Elin, llefarydd hawliau’r gymdeithas, bod y cyhoedd yn dioddef o ddiffyg gwasanaethau Cymraeg oherwydd bod Meri Huws yn “llusgo ei thraed”.

“Does dim ffon symudol Cymraeg am ei bod hi’n llusgo ei thraed.

“Mae hi wedi defnyddio sawl esgus gwahanol dros y misoedd diwethaf – mae’n hen bryd iddi weithredu fel bod pobol yn medru byw trwy’r Gymraeg.”

Ymateb Comisiynydd y Gymraeg

Mewn ymateb dywedodd Comisiynydd y Gymraeg eu bod yn casglu barn y cyhoedd ar gyfer y trydydd cylch o ymchwiliadau safonau ar hyn o bryd.

Mae 64 o sefydliadau’n rhan o’r trydydd cylch hwn gan gynnwys darparwyr tai cymdeithasol, ynghyd ag adrannau Llywodraeth y DU, cwmnïau dŵr, Grŵp y Post Brenhinol a Swyddfa’r Post.

Mae’r Comisiynydd eisoes wedi cynnal ymchwiliadau safonau gyda 145 o sefydliadau yn y ddau gylch cyntaf, meddai.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws:

“Y cylch hwn o ymchwiliadau safonau yw’r cam diweddaraf yn y broses o osod dyletswyddau ar sefydliadau i gydymffurfio â safonau. Bydd safonau’n arwain at sefydlu hawliau i ddinasyddion yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg, ac felly mae derbyn barn a thystiolaeth y cyhoedd ar y cam hwn yn rhan bwysig o’r gwaith.”

Mae’n rhoi cyfle i’r cyhoedd nodi beth maen nhw’n teimlo sy’n rhesymol i’r sefydliadau dan sylw ei wneud a’i ddarparu’n Gymraeg.

Fe ddechreuodd yr ymchwiliad safonau ddoe a bydd yn dod i ben ar 18 Awst 2015.