Milwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
Mae trefnwyr yr Urdd wedi cyhoeddi eu bod am fod yn gweithio gydag ysgolion a chymunedau, fel rhan o gynllun gwerth £1.4 miliwn, i goffau straeon milwyr fu’n brwydro mewn rhyfeloedd.

Fe fydd y cynllun yn rhedeg am bedair blynedd ac yn cael ei arwain gan chwe swyddog, gyda chymorth tua 500 o wirfoddolwyr.

Wrth goffau straeon y milwyr, bydd y prosiect hefyd yn edrych ar hanes rhai o heddychwyr Cymru, fel Waldo a Gwenallt, ac yn ceisio ysbrydoli pobol ifanc i drafod heddwch a sut i’w gyflawni.

Ac ar Faes Eisteddfod yr Urdd Caerffili heddiw bydd cynrychiolwyr o’r prosiect yn gofyn am gymorth y cyhoedd i greu murlun enfawr ar y thema gwrthdaro.

‘Straeon go iawn’

Jane Harries sydd wedi ei phenodi yn Gydlynydd Dysgu’r prosiect ‘Cymru dros Heddwch’.   Dywedodd: “Rydym yn gofyn cwestiwn diddorol – sut mae Cymru wedi cyfrannu at geisio heddwch?.

“Collom ni genhedlaeth gyfan yn y rhyfel byd cyntaf ac mae cyfle i bobol ymchwilio i weld beth oedd hanesion go iawn y bobol ifanc hynny.”