Damian Walford Davies
Y bardd a’r Athro Prifysgol, Damian Walford Davies o Brifysgol Aberystwyth oedd yr ail yng nghystadleuaeth y Goron eleni.
Ef oedd Del Rey, yr un yr oedd un beirniad, Ceri Wyn Jones, am ei goroni am gerddi’n ymwneud â’r awyrennau di-beilot – ‘yr adar angau’ – sy’n cael eu profi mewn canolfan yn Aberporth yng Ngheredigion.
Mae Golwg360 yn deall hefyd mai Guto Dafydd oedd y trydydd, A Safo, ond a oedd yn ail gan y beirniad Geraint Lloyd Owen.
Adnabyddus iawn
Mae Damian Walford Davies yn fardd adnabyddus iawn trwy gyfrwng y Saesneg a’i gyfrol ddiweddara’, Witch, wedi cael canmoliaeth uchel am ei thriniaeth o achosion yn erbyn gwrachod yn yr ail ganrif ar bymtheg.
Saesneg yw ei bwnc yn y brifysgol hefyd, ond mae’n arbenigo ymhlith pethau eraill ar lenyddiaeth Saesneg Cymru. Mae’n gadeirydd Llenyddiaeth Cymru.
Petai wedi ennill, fe fyddai wedi dilyn ei efaill Jason, a enillodd y Goron yn 2004, a nhw fyddai’r efeilliaid cynta’ i gyflawni’r gamp.
Neithiwr fe gyhoeddodd y bardd, Twm Morys, mewn sesiwn farddoniaeth mai Guto Dafydd oedd y trydydd.
Fe fyddai ef wedi bod ymhlith yr ieuenga’ i ennill un o’r prif wobrau ac fe fyddai wedi cyflawni dwbl trawiadol gan mai ef enillodd y Goron yn Eisteddfod yr Urdd eleni.