Jane Jones Owen
Jane Jones Owen o’r Wyddgrug yw enillydd y Fedal Ryddiaith eleni.


Mae’r fedal yn cael ei chyflwyno am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau, dan y teitl ‘Cwlwm’.

Roedd 10 wedi ymgeisio eleni a’r beirniaid oedd Menna Baines, Harri Parri ac Elfyn Pritchard.

Er bod anghytuno rhwng y beirniaid, gwaith ‘Sidan’ a ddaeth i’r brig.

O dan y teitl “Gwe o Glymau Sidan” ceir 59 o ddarnau, o amrywiol hyd.  Mae ambell thema gyffredin yn rhedeg drwy’r darnau, er enghraifft y newid cymdeithasol sydd wedi digwydd yng nghefn gwlad Cymru, a dioddefaint merched dan law dynion.


Yn ol y beirniaid, Sidan yw awdur mwyaf dyfynadwy’r gystadleuaeth.

Cafodd Jane Jones Owen ei geni a’i magu yn Llanuwchllyn ger Y Bala. Bu’n athrawes am rai blynyddoedd cyn dod yn brif gyfieithydd-olygydd Cyngor Sir Clwyd. Wedyn cafodd ei phenodi yn brif gyfieithydd-olygydd Cyngor Sir Ddinbych a bu’n aelod gweithgar o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.


Mae hi bellach wedi ymddeol.

‘Llên meicro’

Dywedodd Jane Jones Owen ei bod hi’n ddiolchgar i’r awdur Annes Glyn am agor ei llygaid i lên meicro bron i ddegawd yn ôl.

Dywedodd bod ‘Symudliw’ – y llyfr a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Casnewydd yn 2004 i  Annes Glyn – wedi gwneud iddi sylweddoli mai dyna’r trywydd yr oedd hi eisiau ei ddilyn.

“Cyn hynny, ro’n i’n meddwl bod rhaid i stori fod  tua 3,000 o eiriau,” meddai. “Ond wedi i mi ddarllen cyfrol Annes Glyn dyma fi’n sylweddoli mai dyna be o’n i isio’i sgwennu.”

Mae Jane Jones Owen wedi cystadlu o’r blaen mewn cystadlaethau llen meicro yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a’r ffaith bod dim cystadleuaeth llen meicro yn yr Eisteddfod eleni a’i hysgogodd i fynd am un o’r prif wobrau.

Ond meddai bod y testun ‘Cwlwm’ wedi bod yn hwb iddi geisio am y fedal hefyd.

“Mae’r testun yn un da i fachu diddordeb ac yn ddigon eang hefyd a dwi’n meddwl bod y ‘Cwlwm’ yn fy nghyfrol i fel rhuban yn gwneud bwnsiad o straeon fydd pobl yn ei mwynhau gobeithio.”


Mae’r enillydd yn derbyn y Fedal Ryddiaith a gwobr o £750, sy’n cael ei gyflwyno gan Glwb Rotari Dinbych.