Cafodd trafodaeth ynglŷn â sut i foderneiddio’r Eisteddfod ei gynnal ar faes y Brifwyl yn Sir Ddinbych heddiw.
Y llynedd cafodd Grŵp Gorchwyl ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i ystyried dyfodol yr ŵyl a sut i’w moderneiddio.
Mae’r grŵp, dan gadeiryddiaeth y darlledwr Roy Noble, wedi bod yn ystyried nifer o feysydd gan gynnwys a ddylai’r Eisteddfod fod ar un safle parhaol.
Dywedodd Roy Noble yn y drafodaeth heddiw na fyddai’n “dodi bet ar yr Eisteddfod yn cael ei gynnal ar un safle yn y dyfodol”.
Ond ychwanegodd ei bod hi’n anodd dod o hyd i safle y gall yr Eisteddfod ddychwelyd ati dro ar ol tro. Mae’r Eisteddfod eleni yn cael ei gynnal ar yr un safle ger Dinbych  lle cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2001.
‘Cymryd camau breision’
Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, ei fod wedi cael y cyfle i fynd a’r Grŵp Gorchwyl o gwmpas y maes yn gynharach heddiw.
“Fe wnes i dywys y grŵp o amgylch y maes a rhoi blas iddyn nhw o beth sydd yma a chael y cyfle hefyd i fynd a nhw i lefydd na fydden nhw efallai yn mynd ar y maes fel arfer.
“Ond dwi rŵan yn edrych ymlaen at dderbyn a darllen yr adroddiad. Byddwn ni ddim yn disgwyl cytuno hefo pob dim fydd yn yr adroddiad ond dwi’n eithaf cyfforddus ein bod ni’n cymryd camau breision ac y byddwn ni’n parhau i foderneiddio yn y dyfodol.”