Meri Huws
Bu Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal sesiwn drafod ynglŷn â phwysigrwydd darparu gwasanaethau iechyd gofal sylfaenol trwy gyfrwng y Gymraeg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw.
Dywedodd Meri Huws ei bod wedi clywed barn “trawstoriad o bobl” a’i bod yn awyddus i’r cyhoedd i gysylltu â hi er mwyn rhannu eu profiadau o ran defnyddio’r Gymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal.
Bydd adroddiad ar ganfyddiadau’r ymholiad yn cael ei gyhoeddi’r flwyddyn nesaf.

Ar banel y drafodaeth roedd Dr Peter Higson, cyn brif weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a chadeirydd panel ymholiad y Comisiynydd i’r maes; Dr Gareth Llywelyn a Dr Elin Royles sy’n aelodau o’r panel, a Dr Llinos Roberts sy’n feddyg teulu yn Nhrimsaran, Sir Gaerfyrddin.

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg: “Roedd hon yn sesiwn fyrlymus iawn, a da oedd clywed barn trawstoriad o bobl – o wneuthurwyr polisi yn y Llywodraeth i ymarferwyr a darparwyr y gwasanaeth ar lawr gwlad i lais y defnyddiwr gwasanaeth.

“Yr un math o negeseuon oedd yn cael eu mynegi gan bawb â dweud y gwir, sef yr angen am arweiniad clir o’r brig er mwyn cynllunio’r gwasanaeth, pwysigrwydd a chyfraniad addysg er mwyn cwrdd â’r angen, a hefyd bod cyfathrebu yn iaith y claf yn rhan annatod o wasanaeth o ansawdd ac yn rhan o effeithiolrwydd gofal clinigol.”

‘Llunio adroddiad mor rymus â phosibl’

Dywedodd y bydd eu hadroddiad ar ganfyddiadau’r ymholiad  yn cael ei gyhoeddi’r flwyddyn nesa’.

“Yn yr adroddiad byddwn yn cyflwyno argymhellion pendant i Weinidogion Cymru a gwneuthurwyr polisi ynghylch sut gallant wella ansawdd y gwasanaeth i ddefnyddwyr.

“Er mwyn llunio adroddiad mor rymus â phosibl, rydym yn galw ar y cyhoedd i gysylltu â ni er mwyn rhannu eu profiadau o ran defnyddio’r Gymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol.

“Roedd hi’n dda gweld y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, yn mynychu’r cyfarfod heddiw, fel ei fod yn dechrau clywed profiadau a phryderon pobl.”
Mae modd cyfrannu i’r ymholiad ar stondin y Comisiynydd yn y Neuadd Arddangos ar faes yr Eisteddfod, ar-lein ar comisiynyddygymraeg.org, dros y ffôn 0845 6033 221, drwy e-bost ymholiadiechyd@comisiynyddygymraeg.org <mailto:ymholiadiechyd@comisiynyddygymraeg.org> neu drwy’r post: Comisiynydd y Gymraeg, Siambrau’r Farchnad, 5-7 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1AT.