Mae’r artist electroneg Ani Glass wedi canmol trefnwyr Tafwyl, gŵyl gelfyddydau a diwylliant Cymreig yng Nghaerdydd, am eu hymdrechion i greu awyrgylch drwy ffrydio perfformiadau’n fyw o Gastell Caerdydd.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal heddiw, dydd Sadwrn, Mehefin 20, 2020.

Clwb Ifor Bach sydd yn curadu’r gerddoriaeth, gyda 10 artist yn perfformio.

Mae’r rhain yn cynnwys setiau byw gan Al Lewis, y grŵp roc-amgen HMS Morris, a’r berfformwraig electro-pop Hana2K.

Ymysg y setiau acwstig bydd perfformiadau gan Casi, Gareth Bonello ac Alun Gaffey.

Yn ogystal â’r gerddoriaeth fyw, darperir nifer o elfennau arferol Tafwyl, gan gynnwys sgyrsiau, sesiynau llenyddol a gweithdai i blant.

Dywed Ani Glass hefyd ei bod yn falch iawn o weld bod Tafwyl yn cael ei gynnal er gwaethaf y cloi mawr.

“Mae’n wych bod Tafwyl dal ymlaen ac mae’r ffaith ei fod yn cael ei gynnal yn y castell a bod ymdrech mawr yn cael ei wneud i greu awyrgylch yno yn anhygoel,” meddai wrth golwg360.