Mae gŵyl undydd yn cael ei chynnal ym mhentref Tal-y-sarn ddydd Sadwrn (Mehefin 3) i gofio’r cerddor Cledwyn Jones, un o’r grŵp harmoni poblogaidd, Triawd y Coleg.

Fe fydd yr ŵyl yn rhoi sylw i’r traddodiad canu arbennig sy’n dal i barhau yn y pentref chwarelyddol yn Nyffryn Nantlle.

Bydd taith gerdded o gwmpas y pentref yng nghwmni Dr Ffion Eluned toc wedi 10am, ac yna bydd y cerddor Robat Arwyn yn dadorchuddio plac ar wal Ysgol Tal-y-sarn am 12.30pm, i gofio Cledwyn. Yna bydd adloniant ysgafn yn y Ganolfan yn Nhal-y-sarn yng nghwmni Robat Arwyn, Band Dyffryn Nantlle ac eraill, a sgwrs gan y llenor Angharad Tomos.

Harmoni “mor naturiol ag anadlu”

Ar ôl mynd i Goleg Prifysgol Bangor, daeth Cledwyn Jones i enwogrwydd fel aelod o’r triawd poblogaidd a gafodd ei ffurfio yn y Coleg yn 1945.

Bu Cledwyn a’r ddau aelod arall – Meredydd Evans (Merêd) a Robin Williams – yn diddanu cynulleidfaoedd ar y radio ac mewn neuaddau ym mhob cwr o’r wlad, yn canu caneuon fel ‘Hen Feic Peni Farthing’, ‘Pictiwrs Bach y Borth’, a ‘Triawd y Buarth’ – neu ‘Mw Mw, Me Me, Cwac Cwac’.

Roedd Cledwyn Jones wedi treulio pedair blynedd yn yr awyrlu cyn mynd i’r coleg, heb allu siarad Cymraeg gyda neb yn y cyfnod hwnnw.

“Roedd o’n naid iddo,” meddai Angharad Tomos, un o drefnwyr y dathliad.

“Dyma Merêd yn dod mewn yn y dyddiau cynnar wedi iddo gyrraedd coleg, ac ‘roedden ni ar yr un donfedd yn syth,’ medda fo. Yr hogiau dosbarth gweithiol chwarelyddol, yn dod yn ffrindiau agos iawn.

“Roedden nhw’n cyfarfod yn ddyddiol… Bob bore roedd y tri yn mynd at y piano a chanu.”

Mae Angharad Tomos wedi gwrando ar y ddarlith y cafodd ei rhoi gan Cledwyn Jones i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai yn 2013, ac yntau’n 90 oed. Yn y ddarlith yma, roedd yn dadansoddi sut roedd y tri wedi gallu canu harmoni mor naturiol.

Wrth wneud rhaglenni radio i’r BBC, mae’n debyg y byddai Meredydd Evans yn dod i’r stiwdio yn y bore wedi cyfansoddi cân newydd, ac yn ei chanu i’r lleill. Byddai Robin yn dechrau gyda’r bâs, Cledwyn yn gwneud y tenor, a Merêd yn gwneud yr alaw.

“Roedd o’n dweud, ‘fasan ni ddim wedi gallu gwneud hynna oni bai ein bod ni’n dod o’r un cefndir’,” meddai Angharad Tomos. “‘Bod ein tadau ni’n chwarelwyr, ein bod ni’n mynd i gapel deirgwaith y Sul, a Band of Hop, cymanfa, eisteddfod…’

“Roedd yr harmoni’n dod mor naturiol ag anadlu iddyn nhw.”

Traddodiad canu Tal-y-sarn

Mae’r trefnwyr wedi gofyn i’r cerddor Robat Arwyn ddadorchuddio’r plac er mwyn dangos bod y traddodiad canu wedi para yn yr ardal hyd heddiw.

“Mae’r ffaith bod Robat Arwyn wedi ei fagu yn y pentre’ yn barhad o’r traddodiad yna,” meddai Angharad Tomos. “Doedd o ddim yn unig y canu – i feddwl bod (y beirdd) Gwilym R Jones ac R Williams Parry wedi dod o’r un pentref. Rydan ni’n sôn am bentref mor fach!

“Dw i wedi bod yn pyslo pam… Rhaid bod rhywbeth yn y gwynt. Mae’r Band Seindorf Dyffryn Nantlle yn haen arall. Ac mi oedd ganddyn nhw’r ‘Tal-y-sarn Glee Singers’!”

‘Mawr ei barch’

Bu Cledwyn Jones yn athro Addysg Grefyddol ym Mhenygroes ac Ysgol Friars, Bangor, cyn cael ei benodi yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg Coleg y Santes Fair ac Adran Addysg Prifysgol Bangor.

Cyhoeddodd y llyfr Atgofion Awyrennwr gyda Gwasg Carreg Gwalch yn 2013, am ei brofiadau yn yr awyrlu, ac yn ôl Angharad Tomos, Cledwyn yw awdur y “llyfr gorau” am Ddyffryn Nantlle – Fy Nhalysarn i.

“Mae’r siopau yma i gyd yn cael eu henwi, mae o’n mynd ar ôl y capeli i gyd, a hanes y chwareli,” meddai. “Mae o mor fanwl. Nid ond y wybodaeth, ond mae o’n gallu ei ddweud o mewn ffordd ddifyr.

“Er ei fod o’n ddarlithydd ac yn fawr ei barch yn academaidd, mae cymaint o’r pethau eraill – y canu, a’r arferiad… Mae o’n ymgorfforiad o ddiwylliant Talysarn.”

Bu farw Cledwyn Jones fis Hydref y llynedd yn 99 mlwydd oed, ac mae criw Yr Orsaf ym Mhen-y-groes, gyda chefnogaeth y teulu, wedi trefnu’r diwrnod i gofio a dathlu ei fywyd ar ganrif ei eni.

Am ragor o fanylion cysylltwch ag Angharad Tomos angharad.tomos@gn.apc.org neu Ffion Eluned Owen ffioneluned24@gmail.com.