Roeddwn yn sefyll ar lwyfan ’steddfod, yn gwylio bysedd chwim y bianydd wrth iddi lenwi’r stafell hefo cyflwyniad bywiog y gân. Daeth ias oer dros fy nghroen, a rhyw deimlad annifyr yn fy stumog. Roeddwn i’n gwingo wrth boeni pryd i ymuno â’r gerddoriaeth… Yna, mi roedd hi’n rhy hwyr. Sbïodd y bianydd arnaf a newidiodd yr hyn roedd hi’n ei chwarae, mor ddiymdrech a medrus; nodiodd ei phen arnaf mewn ffordd glên i geisio fy annog i ddechrau canu… A dyna lle mae’r atgof yn gorffen.

Mae beth bynnag ddigwyddodd nesaf ar goll yn niwl y gorffennol. Dwi yn cofio fy mod wedi bod wrth fy modd yn canu’n blentyn, ond wnes i ddim canu ar lwyfan ar fy mhen fy hun wedi hynny – wel, ddim i mi gofio beth bynnag. Ond yn ddiweddar, rwy’ wedi bod yn canu mewn ‘meiciau agored’ a ballu, a pherodd hyn i’r atgof yma godi i’r wyneb unwaith eto, wrth i mi geisio datrys dameg bersonol am amser.

Natur y clyw

Fel wnes i grybwyll yn fy erthygl ar ddechrau’r wythnos bwysig hon (Mai 1-7), mae fy nghlyw, a diffyg clyw, yn fater cymhleth. Erbyn hyn, mae fy nghlyw beunyddiol yn fwy tebyg i sut mae Terminator yn prosesu amrywiaeth o bytiau carpiog o wybodaeth nag i glyw arferol. Ac wrth i mi geisio cwblhau jig-so bob sgwrs, mae pob tamaid o wybodaeth, pob ‘ochr o air’, pob sain neu chwarter sain, yn gwneud gwahaniaeth – felly, yn syml, os oes meicroffôn, plîs wnewch chi ei defnyddio hi?

Ond mwyhau (amplify) y sain yn unig wneith meicroffôn, ac mewn gwirionedd mae ein perthynas ni hefo’r sain o’n cwmpas yn fater llawer iawn mwy cymhleth na hyn.

Es i hefo fy ngŵr yn ddiweddar i wylio ‘trochwyr’, sef adar brown a gwyn sy’n byw ar lan yr afon. Roeddwn yn teimlo’r afon yn fwy na chlywed ei sain hi – ond ni chlywais yr adar bach yn trydar yn eu nyth; ges i glywed amdano gan y gŵr. Synnais, a dweud y gwir, gan fod trydar ar amledd uchel, sef y rhan o fy nghlyw sydd dal yn reit dda, a doedd y nyth ddim yn bell o le roeddwn yn eistedd. Ond pan fo gennych chi golled clyw, mae synau eraill yn medru eu boddi a chreu ‘amgylchedd clyw cymhleth’, lle mae gwahaniaethu rhwng synau yn anodd.

‘Anhwylder prosesu clywedol’ (Auditory processing disorder) a chwedlau eraill…

Sawl blwyddyn yn ôl bellach, cafodd fy nhad ddiagnosis o ‘anhwylder prosesu clywedol’, ac mi wnaeth hyn esbonio llawer iawn o bethau, a dweud y gwir. Mi roedd wedi cyrraedd pwynt lle roedd fel pe bai o ar ryw fath o amser gwahanol i bawb arall – yn clywed ryw eiliad yn hwyrach.

Mae gen i Syndrom Waardenburg Math 1, ac mae hynny i’w weld yn datblygu yn yr un modd ag y gwnaeth e i fy nhad, felly mae’n gwneud synnwyr y bydd gen i gyflyrau a chymhlethdodau tebyg hefyd.

A chyn i’r Google-feddygon ddechrau cecru a dweud bod rhai adnoddau ar gyfer ‘anhwylder prosesu clywedol’ yn honni bod ‘y rhan fwyaf’ o bobol hefo’r cyflwr hefo ‘clyw normal’, mae’n well nodi dau beth:

  1. Tydi bywyd hefo SWM1 ddim yn normal o gwbl – yn wir, rydyn ni sydd hefo fo yn chwalu pob myth meddygol, a synnwn i ddim pe bai’n troi allan ryw ddiwrnod ein bod ni wir o’r blaned Tatooine neu rywbeth felly!
  2. Mae ‘anhwylder prosesu clywedol’ yn fwy o gysyniad nag o ddiagnosis mewn gwirionedd, gyda lot o ansicrwydd a gorgyffwrdd hefo ‘cyflyrau’ eraill sy’n tarfu ar ein gallu i wneud synnwyr o sain y byd o’n cwmpas.

Y cwbl dwi’n gwybod yw fy mod, erbyn hyn, fel fy nhad, ar ryw dempo gwahanol i’r byd o’m cwmpas, a difyr yw ystyried pam.

Canu i gyfeiliant cerddoriaeth

Felly dyna lle’r oeddwn i, ar lwyfan y Saith Seren, yn barod i ganu ‘King of the Road’ – hen ffefryn. Roedd Brian yn canu cyfeiliant ar y gitâr… a dechreuais deimlo’n anghyffyrddus.

Mae’n anodd esbonio, ond rywsut dwi’n ymwybodol ’mod i ddim yn ‘clywed’ neu’n ‘prosesu’ ar yr un cyflymder, felly mae ymuno yn y gân yn teimlo fel ceisio dal handlen bws sy’n symud, a thynnu fy hun yn saff i’r bws.

Mewn cyferbyniad â hyn, medraf ganu a cappella, dim problem… Er, mae hyn wedi peri i mi gwestiynu fy amseru trwy gydol y caneuon heb gerddoriaeth fel ffon fesur.

Yn ddigon ‘smala, mae yna drafodaethau ynglŷn â’r posibilrwydd fod ymarfer cerddoriaeth yn medru bod o fudd i bobol hefo’r broblem, felly fy mwriad yw parhau i ganu ac ymwneud â cherddoriaeth gymaint ag y medraf.

Ac i helpu hefo hyn, rwy’ am ‘mofyn metronom dirgrynol gwisgadwy, ac arbrofi hefo ‘teimlo’ sain, megis trwy ffyrc tiwnio ac efallai chwarae offerynnau amrywiol… Efallai hyd yn oed ail-gydio yn y delyn…