Bydd Menter Iaith Abertawe’n cynnal cyfres o sesiynau mewn lleoliadau anarferol dros y flwyddyn nesaf, yn sgil partneriaeth gyda Ffoto Nant a Stiwdio Sain.

Bydd y sesiynau’n cael eu recordio, a bydd yr artistiaid yn defnyddio’r Gymraeg mewn ffyrdd amrywiol a chyffrous gyda’r bwriad o gyflwyno’r iaith Gymraeg i lefydd newydd a gwahanol.

Byddan nhw hefyd yn cynnig llwyfan ychwanegol i artistiaid newydd.

Ymhlith y lleoliadau fydd yn cael eu defnyddio mae Oriel Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe, siop recordiau Derricks, Oriel Mission, y Bunkhouse, Amgueddfa’r Glannau, Oriel Elysium a chartre’r Fenter Iaith leol, Tŷ Tawe.

Tŷ Tawe yw lleoliad y sesiwn gyntaf gydag Ynys, tra bydd Eädyth x Izzy Rabey yn fyw o Oriel Glynn Vivian.

Mae’r sesiwn gyntaf gydag Ynys ar gael i’w gwylio nawr ar yr ap AM Cymru ac ar sianel YouTube Menter Iaith Abertawe.