Gobaith trefnwyr Tregaroc yw y bydd yr ŵyl dros y penwythnos hwn yn codi’r bwrlwm yn Nhregaron cyn yr Eisteddfod.

Bydd yr ŵyl gerddoriaeth yn dychwelyd i’r dref am y tro cyntaf ers 2019 ddydd Sadwrn (Mai 21), gydag artistiaid fel Gwilym Bowen Rhys, I Fight Lions, Welsh Whisperer a’r Moniars.

Yr uchafbwynt, yn ôl un aelod o bwyllgor Tregaroc, yw fod yr ŵyl yn cael ei chynnal eto ar ôl y pandemig, a hynny heb gyfyngiadau.

Mae croeso i unrhyw un ymweld â’r ŵyl yn ystod y prynhawn, ac mae Fflur Lawlor, un o’r trefnwyr, yn disgwyl y bydd tua 500 i 600 o bobol yno.

O 8 o’r gloch ymlaen, mae’n rhaid cael tocyn i fynd i wylio Candelas, Tara Bandito a Newshan yn y Babell Fawr, a chafodd y 499 tocyn i gyd eu gwerthu o fewn 24 awr.

‘Codi’r hwyl’

Mae’r ŵyl yn gyfle i godi hwyl yn y dref, yn ôl Fflur Lawlor, sy’n un o’r chwe menyw sefydlodd yr ŵyl yn 2014.

“Mae hi’n braf cael bod yn ôl, â bod yn onest. Dw i’n credu ein bod ni wedi anghofio faint o waith sy’n mynd mewn i drefnu rhywbeth fel hyn ar ôl seibiant o ddwy flynedd,” meddai wrth golwg360.

“Mae hi’n job cofio be’ sydd eisiau gwneud, a phryd sydd eisiau ei wneud e.

“Bydd hi’n braf cael ychydig o fwrlwm yn y dref, a gyda’r Eisteddfod yn dod yn yr haf mae eisiau rhywbeth i godi’r bwrlwm a chodi’r hwyl.”

Mae’r ŵyl yn ffordd o baratoi at yr Eisteddfod ym mis Awst, meddai wedyn.

“Mae pawb yn edrych ymlaen i’r Eisteddfod ddod, a dw i’n credu bod Tregaroc yn gam wneith rhoi pawb mewn hwyliau da ac edrych ymlaen at yr haf.

“Croesi bysedd am y tywydd!”

Mae’r arlwy yn dechrau am 1 o’r gloch y prynhawn ar y Sgwâr Fawr yn Nhregaron.

“Mae yna lein-yp eithaf da, gobeithio bod rhywbeth at ddant pawb,” meddai.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan y gymuned a’r busnesau lleol sy’n ein cefnogi ni bob blwyddyn, ac yn galluogi ni i allu gwneud e bob blwyddyn.

‘Gŵyl hafaidd’

Bydd Gwilym Bowen Rhys yn canu yn ar y Sgwâr Fach am 4 o’r gloch, ac mae’n edrych ymlaen at gael dychwelyd i “ŵyl hafaidd, mewn lleoliad gwych”.

“Dw i wastad wrth fy modd yn canu yn Nhregaron, dw i’n meddwl fy mod i’n chwarae yno’r tro olaf oedd o ymlaen, 2019, felly dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn i fynd yn ôl,” meddai wrth golwg360.

Gwilym Bowen Rhys

Yn ogystal â chwarae yno ar ei ben ei hun yn fwy diweddar, bu Gwilym Bowen Rhys yno gyda’r Bandana cyn hynny.

“Dw i’n cofio ryw flwyddyn, mae yna dafarn o’r enw Y Llew Coch ac roedd o wedi cau am sbel, wedyn fe wnaeth o ailagor,” meddai.

“Fe wnaethon nhw ailagor o jyst mewn pryd ar gyfer yr ŵyl, ond doedd yna ddim dodrefn na dim byd yna! Dim cadeiriau, roedd hi jyst yn ystafell wag.

“Ond roedd o jyst yn ffantastig! Jyst pub heb fyrddau, heb gadeiriau, ond roedden ni yna drwy’r nos yn mwynhau’n hunain yn y Llew Coch ar ei newydd wedd.”

Gwyliau’n dod yn ôl

Gyda gwyliau wedi ailddechrau o ddifrif erbyn hyn, mae gan Gwilym Bowen Rhys fisoedd prysur o’i flaen.

“Mewn ffordd mae o’n gwneud perfformio mewn gwyliau hyd yn oed yn well achos ein bod ni wedi gweld pa mor ddiflas mae bywyd yn gallu bod heb y digwyddiadau yma,” eglura.

“Mae pawb yn mynd yn ôl i’r gwyliau yma’n llawen ac yn mwynhau cerddoriaeth byw a’r cyffro yna sy’n dod efo’r math yma o ddigwyddiadau, yn enwedig mewn llefydd fel Tregaron, pentrefi gwledig lle mae rhywbeth fel hyn yn gallu dod â chymaint o fywyd ychwanegol i’r lle.”

Bydd Gwilym Bowen Rhys yn canu yn Y Parlwr ym Mhontcanna yng Nghaerdydd ar Fai 27 ac yn Nhy’n Llan yn Llandwrog ar Fai 28, cyn cymryd rhan mewn gŵyl arbennig i ddathlu dynes oedd yn rhedeg ysgol i forwyr yng Nghaernarfon ar Fai 29.

Fel rhan o Ŵyl Ellen yng Nghaernarfon, bydd Aled Hughes yn cyfweld yr hanesydd Elin Tomos, a bydd Gwilym Bowen Rhys yn canu set o ganeuon morwrol.

Ar ôl hynny, bydd yn ymweld â Gŵyl Tân ar y Mynydd yn Llandybie, yn canu yn lansiad albwm Mari Mathias yng Nghaerdydd ac yn Nhafarn Dyffryn Aeron ar Fehefin 5 jyst cyn y gêm fawr pan fydd tîm pêl-droed Cymru’n ceisio ennill eu lle yng Nghwpan y Byd.