Mae’r gantores a cherddor soul electronig Eädyth yn dweud ei bod hi am “ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf”.

Fel rhan o weithgareddau Dydd Miwsig Cymru eleni, mae prosiect wedi lansio ymgyrch i ddarganfod seren bop nesaf Cymru.

Caiff Dydd Miwsig Cymru ei gynnal ar Chwefror 4 eleni, ac fel rhan o’r ymgyrch ‘Ysgol POP!’ bydd cyfle i un ysgol gynradd ennill £250 ac ymddangos ar y rhaglen Stwnsh Sadwrn ar S4C ar Chwefror 5.

Yr her ydy i ysgolion ysgrifennu a pherfformio pennill a chytgan cân ar y thema ‘Beth mae’r iaith yn feddwl i ti?’.

Mae Dydd Miwsig Cymru wedi cyhoeddi trac miwsig offerynnol gan Eädyth ac Izzy Rabey – ‘Cymru Ni’ – i ysbrydoli’r ysgolion.

Bydd angen i ysgolion ffilmio’r perfformiad ar ffôn a’i gyflwyno erbyn y dyddiad cau, sef 4.30yh ddydd Gwener, Ionawr 28.

‘Rhywbeth i ddathlu’

“Mae e’n rili exciting dechrau’r flwyddyn gyda phrosiect mor progressive,” meddai Eädyth wrth golwg360.

“Mae gweithio gyda phlant mewn ffordd mor greadigol yn rhywbeth sy’n rili sbesial ac mae ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf yn rhywbeth sy’n fy ysbrydoli i lot fawr.

“Mae e wedi rhoi lot o ysbrydoliaeth i mi ar ddechrau blwyddyn newydd i ysgrifennu caneuon newydd, i allu gweithio gyda phobol newydd hefyd ac i greu caneuon creadigol sy’n rili agos at fy nghalon.

“Dw i’n cael cyfle i weithio gyda phobol o gwmpas Cymru sy’n siarad Cymraeg, yn dysgu Cymraeg neu jyst yn byw yng Nghymru, ac mae hynna yn rhywbeth rili sbesial, yn rhywbeth i ddathlu.”

‘Siarad yn ffordd eich hun’

Mae Eädyth yn awyddus i annog plant i ddatblygu eu hunaniaeth Gymreig eu hunain, gan dalu llai o sylw i Gymreictod traddodiadol.

“Mae’n rili pwysig i mi a dw i’n dweud hynny yng nghytgan y gân dw i wedi ei wneud gydag Ysgol POP, dw i’n dweud: “Siarad yn ffordd eich hun” sy’n siarad â mi mewn ffordd oherwydd fe wnes i ddysgu sut i siarad yr iaith fy ffordd fy hunan.

“Dw i ‘di symud gymaint o weithiau o gwmpas Cymru a dw i wedi dysgu gymaint o ffyrdd gwahanol i siarad yr iaith a dw i wedi dysgu bod dim ffordd iawn i siarad yr iaith.

“Mae’n rili pwysig bod plant a phobol ifanc a jyst pobol sy’n dysgu’r iaith yn gwybod bod yno ffordd hawdd i ddysgu’r iaith a bod dim angen sticio mewn i un bocs hefyd.”